Y Winllan

From Wikipedia, the free encyclopedia

Y Winllan

Cylchgrawn y Wesleyaid Cymraeg ar gyfer plant oedd Y Winllan. Fe'i cyhoeddid o 1848 hyd 1965.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...
Y Winllan
Thumb
Enghraifft o:cylchgrawn, cylchgrawn 
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein 
IaithCymraeg 
Dyddiad cyhoeddi1848 
Lleoliad cyhoeddiLlanidloes 
Statws hawlfraintparth cyhoeddus 
Cau
Gweler hefyd Gwinllan.
Thumb
Clawr Rhifyn Rhagfyr 1948

Hyd 1960 ymddangosodd y cylchgrawn yn fisol. Ar ôl hynny cafodd ei gyhoeddi yn ddeufisol hyd ei uno â chylchgronau crefyddol eraill yn y Gymraeg ar gyfer plant yn 1965 dan y teitl Antur.

Y golygydd cyntaf oedd Dr Thomas Jones, a ddewisodd yr enw. Yn yr 1870au John Evans (Eglwysbach) oedd wrth y llyw. Y llenor a gweinidog Edward Tegla Davies oedd y golygydd o 1920 i 1928.

Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd gwaith sawl llenor yn Y Winllan yn cynnwys Edward Tegla Davies (Nedw, Y Doctor Bach, Rhys Llwyd Y Lleuad, Hen Ffrindiau, Stori Sam a Hunangofiant Tomi fel cyfresi cyn eu cyhoeddi yn llyfrau) a Kate Roberts (Deian a Loli a Laura Jones).

Cyfeiriadau

  • Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd, Hanes Ystadegol (Gwasg Gomer, 1980)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.