John Ellis Williams (1901-1975)

llenor, dramodydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Awdur a dramodydd Cymraeg oedd John Ellis Williams (19 Ebrill 19017 Ionawr 1975). Cyhoeddai dan yr enw J. Ellis Williams.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
John Ellis Williams
Ganwyd19 Ebrill 1901 
Penmachno 
Bu farw7 Ionawr 1975 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
  • Athrolys 
Galwedigaethllenor, dramodydd 
Cau

Bywgraffiad

Ganed ef ym mhentref Penmachno, ac addysgwyd ef yn Ysgol y Sir, Llanrwst. Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Normal, Bangor, a bu'n dysgu ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn ymddeol yn 1961. Yn 1962, derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac MBE.[1]

Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau, straeon byrion a dramâu, ac roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o newyddiaduron. Cydweithredodd gyda Syr Ifan ab Owen Edwards i ysgrifennu a chynhyrchu y ffilm sain gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr, yn 1935. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, yn cynnwys Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929–1930) a Stori Mops (1952).[1]

Roedd yn arloeswr y nofel dditectif yn Gymraeg, gan ysgrifennu dwy gyfres ohonynt, sef Cyfres Hopkyn a Chyfres Parri, gyda phum nofel yn y ddwy.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

Llyfrau

Llyfrau plant (detholiad)
  • Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929-1930)
  • Stori Mops (1952)
Nofelau ditectif

1. Cyfres Hopkyn

  • Y Gadair Wag
  • Talu'r Pwyth
  • Y Gymwynas Olaf (1959)
  • Y Gwenith Gwyn
  • Llwybrau Cam

2. Cyfres Parri

  • Celwydd Golau
  • Y Trydydd Tro
  • Nos Galan
  • Gwerin Gwyddbwyll (1967)
  • Porth Ewyn

Astudiaethau

  • Meredydd Evans (gol.), Gŵr wrth Grefft: Cyfrol Deyrnged i J. Ellis Williams (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1974). Ceir llyfryddiaeth lawn yn y gyfrol hon.
  • Elfyn Pritchard, "John Ellis Williams", yn Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru hyd tua 1950, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.