ymgyrchydd iaith a sefydlydd yr Urdd From Wikipedia, the free encyclopedia
Academydd ac awdur oedd Syr Ifan ab Owen Edwards (25 Gorffennaf 1895 – 23 Ionawr 1970). Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Urdd Gobaith Cymru yn y flwyddyn 1922.
Ifan ab Owen Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1895 y Tymbl |
Bu farw | 23 Ionawr 1970 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, cyfarwyddwr ffilm |
Tad | Owen Morgan Edwards |
Plant | Owen Edwards, Prys Edwards |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Am gyfnod golygai'r cylchgrawn Cymru'r Plant ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Ysgol Gymraeg yr Urdd, Aberystwyth yn 1939. Gyda chymorth John Ellis Williams, cynhyrchodd y ffilm lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, ar gyfer sinema deithiol.
Ganwyd yn Nhremaran, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i Syr Owen Morgan Edwards ac Ellen Elizabeth Edwards (née Davies). Magwyd yn Rhydychen nes dychwelodd y teulu i Lanuwchllyn yn 1907. Aeth i ysgol ramadeg y Bala ac yna i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1912–1915).
Gwasanaethodd fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1915 ac 1918. Wedi'r rhyfel aeth i Goleg Lincoln, Rhydychen rhwng 1918 ac 1920 a graddio mewn hanes.[1]
Priododd Eirys Mary Lloyd Phillips, Lerpwl ar 18 Gorffennaf 1923. Cartref cyntaf y pâr oedd Neuadd Wen, Llanuwchllyn, cyn symud i Aberystwyth yn 1930. Ganed dau fab iddynt, Owen a Prys. Daeth Owen Edwards yn newyddiadurwr, darlledwr ac yn Brif Weithredwr cyntaf S4C. Roedd ei frawd Prys Edwards yn bensaer a weithiodd drwy ei oes gyda'r Urdd.
Argraffwyd y cwbl gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Swyddfa "Cymru," Caernarfon. 'Ab Owen' sydd ar waelod y meingefn, ac eithrio bod enw 'Wrexham, Hughes a'i Fab' ar rai copïau. Mae'n debyg mai llenni gwreiddiol wedi eu rhwymo'n ddiweddarach yn Wrecsam yw'r copïau hynny, gan y ceir copïau gwreiddiol o'r un llyfrau gydag 'Ab Owen' ar y meingefn. Sylwer ar y nifer a ymddangosodd yn 1907, blwyddyn na chyhoeddodd ynddi ond un gyfrol o Gyfres y Fil.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.