Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clefyd heintus yw hepatitis B. Fe'i hachosir gan y firws hepatitis B (HBV), sy'n effeithio ar yr afu. Gall y clefyd achosi heintiau aciwt a chronig. Nid yw llawer o bobl yn dioddef symptomau yn ystod penodau cychwynnol y cyflwr. Serch hynny, mae rhai'n datblygu anhwylderau'n gyflym, er enghraifft chwydu, croen melyn, blinder, wrin tywyll a phoenau yn yr abdomen. Fel arfer mae'r symptomau uchod yn parhau am ychydig wythnosau ac ar y cyfan ni achosir marwolaeth gan yr haint yn ystod ei gyfnodau cychwynnol.[1] Gall gymryd rhwng 30 a 180 diwrnod i'r symptomau ddatblygu. Mae 90% o'r rheini sy'n cael eu heintio yn ystod eu cyfnod geni'n datblygu hepatitis B cronig; 10% o ddioddefwyr dros bum mlwydd oed sy'n datblygu'r cyflwr hwnnw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddioddefwyr clefyd cronig yn datblygu symptomau; fodd bynnag, gall arwain yn y pen draw at ganser ar yr afu a sirosis.[2] Mae'r fath gymhlethdodau'n achosi marwolaeth ymysg 15 i 25% o ddioddefwyr clefyd cronig.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, hepatitis firol, Hepadnaviridae infectious disease, clefyd |
Lladdwyd | 887,000 |
Symptomau | Cyfog, chwydu, hepatitis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caiff y firws ei drosglwyddo wrth i rywun ddod i gysylltiad â gwaed neu hylifau corffol heintus. Mewn ardaloedd lle mae'r afiechyd mwyaf cyffredin, trosglwyddir heintiad hepatitis B yn bennaf yn ystod genedigaeth neu drwy ddod i gysylltiad â gwaed heintiedig yn ystod plentyndod. Mewn ardaloedd lle nad yw'r clefyd yn gyffredin, caiff ei drosglwyddo yn fwy aml na pheidio o ganlyniad i ddefnydd cyffuriau mewnwythiennol a chyfathrach rywiol. Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae gweithio ym maes gwasanaethau iechyd, trallwysiadau gwaed, dialysis, byw gyda pherson sydd wedi ei heintio, teithio i wledydd lle mae'r cyfraddau heintio yn uchel a byw mewn sefydliad.[3] Arweiniodd tatŵio ac aciwbigo at nifer sylweddol o achosion yn y 1980au; fodd bynnag, nid ydynt bellach yn achosion cyffredin o ganlyniad i welliannau mewn sterileiddiwch.[4] Ni ellir lledaenu firws hepatitis B trwy ddal dwylo, rhannu offer bwyta, cusanu, cofleidio, peswch, tisian, neu fwydo o'r fron. Mae modd diagnosio'r cyflwr 30 i 60 diwrnod wedi'r cysylltiad. Gwneir diagnosis fel arfer drwy brofi rhannau o'r firws yn y gwaed ynghyd â gwrthgorffynnau yn erbyn y firws. Mae'n un o bum prif firysau hepatitis: A, B, C, D, ac E.[5]
Ers 1982 mae'n bosib atal yr haint drwy frechiad.[6] Argymhellir brechu baban ar ddiwrnod ei genedigaeth, lle bo hynny'n bosib, gan Sefydliad Iechyd y Byd. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posib, mae'n ofynnol brechu dau neu dri dos arall yn hwyrach mewn bywyd unigolyn. Mae'r brechlyn yn gweithio oddeutu 95% o'r amser.[7] Yn 2006, yr oedd tua 180 o wledydd yn cynnig y brechlyn fel rhan o raglen genedlaethol. Cyn cynnal trallwysiad gwaed argymhellir cynnal profion ar gyfer hepatitis B, dylid defnyddio condomau hefyd i atal yr haint rhag lledaenu o un unigolyn i'r naill. Yn ystod cyfnodau cychwynnol yr haint y mae'r gofal a roddir yn seiliedig ar symptomau'r dioddefwr. Mewn unigolion sy'n datblygu clefyd cronig, gall meddyginiaeth gwrthfirysol megis tenofovir neu interfferon fod yn ddefnyddiol; fodd bynnag, nid yw'r cyffuriau uchod yn rhad. Cynhelir trawsblaniad yr afu weithiau ar gyfer sirosis.
Mae tua thraean o boblogaeth y byd wedi cael eu heintio rhywbryd yn ystod eu bywydau, gan gynnwys 343 miliwn o heintiau cronig.[8][9] Cofrestrwyd 129 miliwn o heintiau newydd yn 2013.[10] Mae dros 750,000 o bobl yn marw o hepatitis B yn flynyddol.[8] Achosir oddeutu 300,000 o'r rhain gan ganser yr afu.[11] Bellach, mae'r clefyd ond yn gyffredin yn Nwyrain Asia ac Affrica Is-Sahara, lle mae rhwng 5 a 10% o oedolion wedi'u heintio'n gronig. Mae cyfraddau marw yn Ewrop a Gogledd America yn llai na 1%. Gelwid y cyflwr yn wreiddiol yn "hepatitis serwm".[12] Mae ymchwil yn parhau sy'n anelu at greu bwydydd yn cynnwys y brechlyn HBV.[13]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.