From Wikipedia, the free encyclopedia
Trawsblannu organau yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o organau anifail neu ddyn o'r rhoddwr i'r derbynnydd, fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu meinwe hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn meddygaeth, yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.[1] Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.[2]
Enghraifft o'r canlynol | surgical procedure type |
---|---|
Math | surgical operation, llawdriniaeth, transfer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw had gelloedd person sy'n dioddef o lwcimia mewn labordy, dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy radiotherapi a cimotherapi ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn autograft a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn allograft. Gall trawsblaniad o'r math hwn (allograft) olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.[3] Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i Lywodraeth Cymru basio bil (Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013) sy'n caniatáu i ysbytu ddefnyddio organau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2015.
Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".[4]
Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a'r coluddyn bach.
Mae rhoi meinweoedd yn golygu defnyddio celloedd corff iach fel cornbilennau, croen, esgyrn, gewynnau, cartilag a falfiau'r galon. Mae esgyrn, tendonau a chartilag yn cael eu defnyddio ar gyfer ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawdriniaeth i osod cymal newydd. Mae impiadau (neu grafft) croen yn cael eu defnyddio i drin pobl â llosgiadau difrifol.
Cafodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013. Mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyfreithiol ar gyfer sut y dylid rhoi cydsyniad yng Nghymru i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu i gorff arall. Mae’n ymdrin â gweithgareddau trawsblannu ar gyfer rhoddwyr byw a rhoddwyr sydd wedi marw yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn creu dau fath newydd o gydsyniad cyfreithiol – sef cydsyniad datganedig a chydsyniad tybiedig. Nid yw cydsyniad tybiedig yn gymwys ond i rodd gan berson sydd wedi marw. I gydsyniad tybiedig fod yn gymwys, bydd angen i bobl farw yng Nghymru, bod dros 18 oed ac wedi ‘preswylio fel arfer’ yng Nghymru am 12 mis neu fwy.[5]
Bernir bod oedolion wedi rhoi cydsyniad i roi organau a meinweoedd oni bai:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.