rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol ddu (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Apus apus; yr enw Saesneg arno yw Eurasian swift. Mae'n perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae) sydd yn urdd y Apodiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Gwennol ddu Apus apus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Apodiformes |
Teulu: | Apodidae |
Genws: | Apus[*] |
Rhywogaeth: | Apus apus |
Enw deuenwol | |
Apus apus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. apus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio o'i bodd; yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan. Mauersegler neu "mur-gydiwr" yw'r gair Almaeneg amdani, sy'n adlewyrchu'r ffaith ei bod yn aml yn cydio mewn boncyff coeden gyda'i thraed pitw.
Aderyn mudol ydyw, yn nythu yn Ewrop a rhan helaeth o Asia, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica. Defnyddir adeiladau ar gyfer nythu fel rheol. Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.
Ceir nifer o hen enwau arni, llawer ohonynt yn ymwneud â chyfriniaeth neu grefydd: coblyn, gwrach yr ellyll, asgell hir, aderyn yr eglwys, aderyn du'r llan, y biwita (the bewitched one), y folwen, sgilpen, marthin du (black bird of St. Martin), y wennol ddu fawr, gwennol y dŵr (ardal Llandysul), gwennol fuan.[3]
Mae'r gwennol ddu yn perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Corgoblyn Awstralia | Aerodramus terraereginae | |
Corgoblyn Lowe | Aerodramus maximus | |
Corgoblyn Maÿr | Aerodramus orientalis | |
Corgoblyn Ynysoedd Cook | Aerodramus sawtelli | |
Corgoblyn mynydd | Aerodramus hirundinaceus | |
Corgoblyn tinwyn | Aerodramus spodiopygius |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.