Gustav Klimt

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gustav Klimt

Peintiwr Symbolaidd o Awstria oedd Gustav Klimt (14 Gorffennaf 18626 Chwefror 1918). Roedd yn aelod blaenllaw yn y sefydliad Celfyddydol Newydd yn Fienna. Mae ei brif waith yn cynnwys paentiadau, murluniau, darluniadau a darnau o gelfyddyd amrhywiol eraill. Un o brif bynciau gwaith Klimt oedd y corff benywaidd ac yn aml mae ei waith yn cynnwys elfen erotig.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bedyddiwyd ...
Gustav Klimt
Thumb
GanwydGustav Klimt 
14 Gorffennaf 1862 
Baumgarten, Fienna 
Bedyddiwyd16 Gorffennaf 1862 
Bu farw6 Chwefror 1918 
o strôc 
Altes AKH, Fienna 
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Cisleithania 
Alma mater
  • Prifysgol y Celfyddydau Cymhwysol Fienna 
Galwedigaetharlunydd, cynllunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, drafftsmon 
Adnabyddus amPortrait of Adele Bloch-Bauer I, Beethoven Frieze, Y Gusan, Judith and the Head of Holofernes, The Three Ages of the Woman, Danaë, Portrait of Fräulein Lieser 
ArddullArt Nouveau, celfyddyd grefyddol, peintio hanesyddol, celf tirlun, portread, celf genre, figure 
Prif ddylanwadGeorge Minne 
MudiadSymbolaeth (celf), Art Nouveau 
TadErnst Klimt 
MamAnna Klimt 
PartnerEmilie Louise Flöge, Serena Lederer, Consuela Camilla Huber, Maria Zimmermann, Maria Učická 
PlantGustav Ucicky, Otto Zimmermann, Gustav Zimmermann 
Gwobr/auVilla Romana Prize, Q26709112 
llofnod
Thumb
Cau

Bywyd

Thumb
Y Cusan, 1907–08
Thumb
Adele Bloch-Bauer I, 1907

Yn fab i engrafwr, astudiodd Klimt yn Fienna pan fu'r ddinas ar ei anterth, yn brif ddinas gyfoethog Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Ym 1880 cynhyrchodd murluniau yn arddull clasurol-realistig y cyfnod ar gyfer adeiladau cyhoeddus yn cynnwys y Burgtheater ac Amgeuddfa'r Kunsthistorisches.

Datblygodd ei waith i fod yn fwy arbrofol, ond beirniadwyd ei furluniau ar gyfer adeilad Prifysgol Fienna am eu delweddau rhyfeddol a'u harddull addurniadol, bras.

Fel canlyniad i'r feirniadaeth, ym 1897 bu'n un o'r arlunwyr a ffurfiodd y grŵp Wiener Sezession (Ymwahaniad Fienna) i herio'r sefydliad celfyddydol ceidwadol.

Wedi'i ddylanwadu gan fudiadau celfyddydol avant-garde o wledydd eraill Ewrop datblygodd ar ddiwedd ei oes arddull cyfoethog gyda symbolaeth gymhleth ac yn aml gynnwys erotig.

Ar ôl 1900 canolbwyntiodd ar bortreadau a thirluniau, er iddo gynhyrchu dau o'i furluniau mwyaf yn ystod y cyfnod yma, y Frieze Beethoven ac arddangoswyd ym 1902, ac ardduneddau ar gyfer y Palais Stoclet, Brwsel (1904-1911).

Treilliodd Klimt yr haf yn Attersee, ger Salzburg, a ysbrydolodd llawer o'i dirluniau a ble peintiodd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Y Cusan, 1907-8.[1]

Cafodd nifer o'i weithiau eu difetha yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gwerthodd ei lun Adele Bloch-Bauer I (1907), am $135 miliwm yn Efrog Newydd yn 2006 [2]

Dolenni allanol

Oriel

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.