Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd, athronydd, ysgrifwr, ac ieithegwr o'r Eidal oedd y Conte Giacomo Leopardi (29 Mehefin 1798 – 14 Mehefin 1837) sydd yn nodedig am ei farddoniaeth delynegol odidog a'i draethodau ysgolheigaidd ac athronyddol unigryw.
Giacomo Leopardi | |
---|---|
Portread o Giacomo Leopardi o 1820. | |
Ffugenw | Cosimo Papareschi |
Ganwyd | Giacomo Taldegardo Francesco di Sales Saverio Pietro Leopardi 29 Mehefin 1798 Recanati |
Bu farw | 14 Mehefin 1837 Napoli |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | llenor, bardd, athronydd, ieithegydd, cyfieithydd, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol |
Adnabyddus am | A se stesso, A Silvia, Q3625268, Canti, Ciclo di Aspasia, Q3710307, Q3730665, La ginestra, L'Infinito, La quiete dopo la tempesta, Maria Antonietta, Small Moral Works, Paralipomeni della Batracomiomachia, Il passero solitario, Pensieri, Q3795657, Sopra il monumento di Dante, Zibaldone |
Tad | Monaldo Leopardi |
Mam | Adelaide Antici Leopardi |
Perthnasau | Terenzio Mamiani |
Gwefan | http://www.leopardi.it |
llofnod | |
Ganed i deulu bonheddig yn Recanati ym Marche, a oedd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Bachgen hynod o ddeallus ac henffel ydoedd, a chafodd ei lesteirio gan blwyfoldeb gwledig ei amgylchedd a diffyg adnoddau ei diwtoriaid. Gwaethaf oll, bu ei rieni yn ddideimlad i anableddau corfforol Giacomo ac yn esgeulus o'i alluoedd. Erbyn 16 oed roedd wedi dysgu Groeg, Lladin, a sawl iaith arall ar liwt ei hun, ysgrifennu dwy drasiedi a nifer o gerddi yn Eidaleg, cyfieithu sawl un o'r clasuron, a chyflawni nifer o draethodau esboniadol yn brawf o'i ddoniau ysgolheigaidd. Gwaethygodd ei afiechyd o ganlyniad i'w astudiaethau llethol, a dioddefai nam ar ei olwg. Aeth yn ddall mewn un llygad, a datblygodd gefn crwm oherwydd clefyd serebro-sbinol.[1]
Cafodd berthynas dda gyda'i frawd a chwaer, ond ni chafodd ei drin yn annwyl gan ei rieni, hyd yn oed yn ei byliau o salwch. Mynegai ei obeithion a'i chwerwder fel ei gilydd yn ei farddoniaeth, er enghraifft "Appressamento della morte", penillion terza rima ar batrwm Francesco Petrarca a Dante Alighieri a ysgrifennwyd ganddo ym 1816. Yn niwedd ei arddegau, cafodd Leopardi ddau brofiad anhapus a sicrhaodd ei dröedigaeth at besimistiaeth. Ym 1817 dioddefodd siom ei gariad annychweledig tuag at ei gyfnither Gertrude Cassi, a oedd yn briod, yr honno a fyddai'n destun ei ddyddiadur Diario d'amore a'r alargan "Il primo amore". Ym 1818, bu farw Terese Fattorini, merch fach y gyrrwr coetsis, trasiedi a fyddai'n ysbrydoli un o'i delynegion enwocaf, "A Silvia". Codwyd ei galon braidd ym 1818 pan gafodd ei ymweld gan yr ysgolhaig clasurol a gwladgarwr Pietro Giordani, a'i anogodd i ddianc rhag ei deulu. O'r diwedd, aeth Leopardi i Rufain am ychydig o fisoedd ym 1822–23, ond nid taith bleserus oedd honno. Dychwelodd i'w sefyllfa anhapus yn Recanati.
Cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, Canzoni, ym 1824. Y flwyddyn olynol, derbyniodd gynnig i olygu gweithiau Cicero ym Milan. Treuliodd y blynyddoedd wedyn yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng Bologna, Recanati, Pisa, a Fflorens. Cyhoeddwyd y casgliad o farddoniaeth Versi (1826) a'r traethiad athronyddol Operette morali (1827) yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Recanati o 1828 i 1830 oherwydd diffyg arian, cyn iddo ddianc i Fflorens unwaith eto gyda chymorth ei gyfeillion. Yno cyhoeddodd gasgliad barddonol arall, I canti (1831). Ysbrydolwyd rhai o'i delynegion tristaf gan ei gariad am Fanny Targioni-Tozzetti o Fflorens. Magodd gyfeillgarwch agos â dyn ifanc o'r enw Antonio Ranieri, a oedd yn alltud o Napoli.
O'r diwedd ymsefydlodd Leopardi yn Napoli, Teyrnas y Ddwy Sisili, ym 1833. Yno ysgrifennai'r gerdd hir "Ginestra" (1836). Bu farw yn ystod epidemig y geri marwol yn Napoli yn 38 oed.
Ganed Giacomo Taldegardo Francesco di Sales Saverio Pietro Leopardi ar 29 Mehefin 1798 yn Recanati yn fab i'r Conte Monaldo Leopardi (1776–1847) a'r Contessa Adelaide Antici Leopardi (1778–1857), a briodasant ym 1797. Tref fynyddig yw Recanati a leolir yn rhanbarth Marche, yn nwyrain canolbarth yr Eidal, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Babaeth. Dwy flynedd cyn ei eni, goresgynnwyd Taleithiau'r Babaeth o'r gogledd gan luoedd Napoléon yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, a newidiodd llywodraeth Recanati sawl gwaith yn y cyfnod 1796–98. Ar un pryd, gyrrwyd y Ffrancod ymaith gan frigandiaid lleol, a phenodwyd Monaldo Leopardi yn llywodraethwr dros dro y dref.[2] Dyn dysgedig a duwiol oedd y Conte Monaldo, a fyddai'n cynnal cyfarfodydd yn ei blasty, Palazzo Leopardi, o "I Disuguali Placidi", hen academi farddol Recanati a ailsefydlwyd ganddo.[3] Er gwaethaf ei ddysg, ei bendefigaeth, a'i statws uchel yn y gymuned, bu'r Conte Monaldo yn ddi-glem o ran cyllid y teulu, ac oherwydd ei ddyledion cynyddol penderfynodd y Contessa Adelaide gymryd rheolaeth lwyr ar faterion ariannol a'r aelwyd rhyw chwe blynedd i mewn i'r briodas.[4]
Giacomo oedd y cyntaf o ddeg plentyn a anwyd i'r Contessa Adelaide. Dim ond efe a phedwar arall a fyddai'n cyrraedd llawn oed: ei frodyr Carlo (1799–1878), Luigi (1804–28), a Pierfrancesco (1813–51), a'r chwaer Paolina (1800–69). Cawsant eu magu mewn cartref goludog, ond gormesol, yn Palazzo Leopardi. Ni chawsant ganiatâd i ddysgu dawnsio, marchogaeth, cleddyfa, na chrefftau arfau, oherwydd nad oedd y rhain yn gydnaws ag addysg Gristnogol.[5] Ni fyddai'r plant yn teithio y tu hwnt i Recanati nac yn cymdeithasu'n aml â phobl y tu allan i Palazzo Leopardi. Cwmni parhaol Giacomo yn ystod ei blentyndod oedd ei frawd Carlo a'i chwaer Paolina, a byddai'r tri ohonynt yn manteisio ar lyfrgell enfawr eu tad, a oedd yn cynnwys mwy na 15,000 o lyfrau a gasglwyd ganddo, nifer ohonynt wedi eu prynu o'r tai crefyddol a ddiddymwyd dan lywodraeth y Ffrancod.[6]
Cafodd Giacomo ei wersi cyntaf yn yr wyddor a'r holwyddoreg Gatholig oddi ar gaplan y teulu, Don Vincenzo Diotallevi. Derbyniodd ragor o addysg dan diwtoriaeth offeiriaid teuluaidd eraill: Don Giuseppe Torres, Abate Sebastiano Sanchini, a gwersi Ffrangeg oddi ar l'Abbé Borne. Erbyn 12 oed, roedd ganddo grap ar Ladin, rhethreg, diwinyddiaeth, a ffiseg.[7] Sail ei addysg oedd cwricwlwm yr Iesuwyr, a oedd yn cyfuno athroniaeth a gwyddoniaeth ac yn cynnwys awduron a oedd yn groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, er mwyn eu gwrthbrofi o safbwynt dogmataidd. Daeth Giacomo yn gyfarwydd felly â meddylwyr arloesol ac anuniongred yr 17g a'r 18g megis Spinoza, Hobbes, Maupertius, Rousseau, Bayle, Helvétius, a Voltaire, yn ogystal â gwaith gwyddonwyr yr Oleuedigaeth a dderbyniwyd gan yr Eglwys Gatholig, er enghraifft François Jacquier, Aimé-Henri Paulian, Jean Saury, a Rudjer Boscovic.[8] Yn 14 oed, roedd yn amlwg bod Giacomo wedi dysgu popeth y gallai oddi ar ei feistri, ac aeth ati felly i barhau â'i addysg ar liwt ei hun yn llyfrgell Palazzo Leopardi.[7] Dysgodd yr iaith Roeg iddo'i hun o fewn mis, a darllenai y clasuron yn frwd.[9] Er ceidwadaeth a duwioldeb y Conte Monaldo, dangosodd ddigon o barch at chwilfrydedd a llyfrgarwch ei fab hynaf i sicrhau gollyngiad eglwysig iddo yn 15 oed, gan roi caniatâd i Giacomo ddarllen y llyfrau a waharddwyd gan yr Eglwys Gatholig.[6]
Cyfansoddodd Giacomo ei soned gyntaf, "La morte di Ettore", yn 11 oed, ac yn y cyfnod o 1809 i 1812, ar drothwy ei lasoed, ysgrifennodd barodi o'r Ars Poetica gan Horas, dwy drasiedi o feddwl ei hun, a chyfieithiad o bryddestau Horas (llyfrau I a II).[10] Canolbwyntiodd yn enwedig ar ieitheg yn ystod ei arddegau, gan mynd i'r afael â'r clasuron o safbwynt ysgolheigaidd, a dysgodd hefyd yr ieithoedd Hebraeg, ac o bosib Sbaeneg, at ddiben ei astudiaethau ieithyddol.[6]
Datblygodd Giacomo gefnwyrni yn ei ieuenctid, a fyddai'n rhoi iddo gefn crwm a nam ar y thoracs am weddill ei oes. Tybiai ei frawd Carlo i'w tad ddymuno i Giacomo gael ei ordeinio'n offeiriad oherwydd byddai mantell y glogyn eglwysig yn cuddio'i gefn crwm.[11]
Yn 16 i 18 oed, trodd Giacomo brif sylw ei astudiaethau o ysgolheictod i farddoniaeth.[12] Yn ei arddegau, dioddefai Giacomo yr achosion cyntaf o'i gariad ffôl enwog. Cadwodd "ddyddiadur serch" o'i feddyliau am y Contessa Geltrude Lazzari, ac mae'n bosib i'w gerdd "Nerina" gael ei hysbrydoli gan ferch o'r enw Maria Belardinelli. Bu farw Terese Fattorini, merch y gyrrwr coetshis, o'r diciâu, a rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgrifennai Giacomo y gerdd "A Silvia" er cof amdani.
Yn ei ieuenctid, ceisiodd Giacomo wneud ei ffordd ym myd llên drwy gysylltu â dynion hyddysg. Wedi cyfnod o ohebiaeth, daeth yr Abate Pietro Giordani i Recanati ym Medi 1818 i gwrdd â'r ysgolhaig ifanc. Hwn oedd y tro cyntaf i Giacomo fod ar ben ei hun mewn cwmni rhywun y tu allan i Palazzo Leopardi, ac aeth ar wibdaith undydd gyda Giordani i Macerata. Wedi'r daith honno, ymddengys o safbwynt ei deulu fel petai Giacomo wedi newid, ac mae'n amlwg i daliadau rhyddfrydol a gwrthglerigol Giordani gael dylanwad mawr arno.[13]
Ar 1 Ionawr 1819, cyhoeddwyd y ddau canto gwladgarol cyntaf gan Leopardi: "All' Italia" a "Sopra il monumento di Dante".[14] Ar ôl cael ei ysbrydoli gan ymweliad Giordani i blymio i'r ceryntau gwladgarol a oedd ar y pryd yn ysgubo'r Eidal, ysgrifennodd Leopardi at y Conte Saverio Broglio d'Ajano yn gofyn am gymorth i gael pasbort i deithio i Deyrnas Lombardo-Veneto.[15] Mewn achos nodweddiadol o wastrodaeth ei dad arno, cafodd y pasbort ei ddwyn gan y Conte Monaldo Leopardi, a oedd yn anhapus bod ei fab yn trefnu i adael Recanati heb roi gwybod iddo.[16] Erbyn diwedd y flwyddyn, byddai'n profi cyfnod dwys a elwir yn "dröedigaeth athronyddol". Gwrthododd wisgo mwyach fel abbé, yr arfer y gorfodai'r Conte Monaldo ar ei feibion ers eu blynyddoedd cynnar, a rhodd wybod i'w dad na fyned i mewn i'r offeiriadaeth. Ar yr un pryd ag yr haerodd ei annibyniaeth, amddifadwyd ef o'i olwg gan byliau o offthalmia, a bu'n rhai iddo roi'r gorau i'w ddarllen am gyfnod. Wrth gael ei orffwyllo gan ei feddyliau a'i emosiynau ei hun, cafodd ei amheuon crefyddol cyntaf a theimlad cryf o anobaith, ac o'r diwedd fe syrthiodd i'r felan.[17]
Yn ei amserau iachach, parhaodd Leopardi i ysgrifennu, gan ganolbwyntio ar ei drydedd gerdd wladgarol, "Ad Angelo Mai", sydd yn defnyddio ailddarganfod un o brif weithiau Cicero, De re publica, yn Llyfrgell y Fatican fel ei stori.[18] Ar y cychwyn, cafodd cyhoeddi'r gwaith ei atal gan y Conte Monaldo, ond o'r diwedd rhodd ganiatâd i'r honno a thair cerdd arall gan ei fab gael eu hargraffu yn Bologna gan Pietro Brighenti yng Ngorffennaf 1820.[19]
O'r diwedd, gadawodd Leopardi ei dref enedigol ar 17 Tachwedd 1822 gyda'i ewythr y Marchese Carlo Antici a'i deulu, a oedd ar eu ffordd yn ôl i Rufain. Er taw hwn oedd y tro cyntaf iddo deithio y tu hwnt i Recanati dros nos, ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb mewn arsylwi ar y wlad o ffenestr y goets, ac yn lle hynny treuliodd y siwrnai yn darllen ac yn ysgrifennu.[20] Treuliodd bum mis yn Rhufain; nid cyfnod hapus oedd hwnnw i Leopardi:
Efallai, yr amser mwyaf poenus a siomedig a dreuliais erioed yn fy mywyd [...] Collais bron fy foll hunanhyder, yn ogystal ag unrhyw obaith o fod yn llwyddiant yn y byd erioed.[21]
Mynychodd blasty ei ewythr, Palazzo Antici, am ei fwyd, a daliodd i ddibynnu ar ei dad am arian poced. Methodd â chael ei dderbyn yn y salonau a chylchoedd diwylliedig Rhufain.[22] Gwelodd taw dim ond fel ysgolhaig, yn hytrach nag fel llenor, y gallai wneud cydnabyddwyr. Archaeoleg oedd y prif ddiddordeb deallusol yn y ddinas hynafol hon, felly bu'n rhaid iddo dynnu ar ei hen efrydiau ieithegol er mwyn gwneud argraff ar ddynion dysgedig gan gynnwys yr hanesydd Barthold Georg Niebuhr.[23] Cynghorwyd iddo gymryd swydd eglwysig o ryw fath er mwyn ennill ffafr y Babaeth, ond gwrthododd wisgo dillad yr abbé fel y gorfodwyd iddo yn Palazzo Leopardi, ac felly ni fyddai'n derbyn nawdd y Cardinal Ercole Consalvi, Ysgrifennydd y Wladwriaeth.[24] Yn ôl Leopardi, yr unig brofiad pleserus iddo yn Rhufain oedd ei ymweliad â bedd y bardd Torquato Tasso, yn Chwefror 1823.[25] Dychwelodd i Recanati yn niwedd Ebrill.[26]
Er iddo ddychwelyd i'w sefyllfa anhapus yn Palazzo Leopardi, ac er gwaethaf siom ei gyfnod yn Rhufain, daliodd Leopardi at ei lenydda yn Recanati. Cwympodd i ddiflastod ingol, ond nid cyfnod diffrwyth oedd hwn. Cychwynnodd ar ei Operette Morali, gorchwyl sydd yn nodi ei drobwynt o farddoniaeth i ryddiaith ac athroniaeth. Cyfansoddodd un gerdd newydd yn unig yn y flwyddyn 1823, sef "Alla sua donna",[27] ond y flwyddyn olynol cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, Canzoni. Gorffennodd yr Operette Morali, un o'i weithiau amlycaf, yn nhymor y gwanwyn 1825.[28] Mae'r casgliad hwn, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym 1827, yn cynnwys 24 o ysgrifau ac ymgomion, yn null Lucianus.[29] Dyma hefyd y cyfnod iddo gofleidio pesimistiaeth fel ei brif olwg ar y byd. Daeth i weld bywyd ar y ddaear hon fel cyfuniad parhaus o alar a diflastod, athroniaeth a oedd yn debyg i boenydio, hiraeth, a syrffed y Rhamantwyr Almaenig (Weltschmerz) a Ffrengig (mal du siècle) yn nechrau'r 19g.[30]
Ar 17 Gorffennaf 1825 cychwynnodd Leopardi ar daith i Filan, ar wahoddiad y cyhoeddwr Antonio Stella, i ymgymryd ag argraffiad cyflawn o weithiau Cicero.[31] Ar ei ffordd, treuliodd ddeng niwrnod pleserus yn Bologna, a chafodd ei swyno gymaint gan y ddinas honno nes iddo, ar ôl cyrraedd Milan, ddwyn perswâd yn daer ar Stella y gallai gwblhau ei waith o bell.[32] Dychwelodd i Bologna felly ar 29 Medi 1825, ac yno y cychwynnodd un o gyfnodau hapusach ei oes.[33] Yn fuan iawn daeth i adnabod y Conte Carlo Pepoli, is-lywydd yr Accademia del Felsinei, a mynychai Leopardi gyfarfodydd yr Accademia a salonau'r ddinas. Cyfansoddodd gerdd yn null y dychanwr Giuseppe Parini, y penillion cyntaf iddo greu o'r newydd ers dwy flynedd, a fe'i cyflwynodd i Pepoli.[34] Adroddodd Leopardi y gerdd i'r Accademia ar Ddydd Llun y Pasg 1826.[35]
Yn Bologna ffurfiodd Leopardi berthynas agos, ond nid rhamantaidd, â'r Contessa Teresa Carniani Malvezzi, un o wragedd diwylliedig y ddinas a bardd dan y ffugenw Ipsinoe Cidonia. Ysgrifennai Leopardi:
Mae'r adnabyddiaeth hon yn ffurfio cyfnod arbennig yn fy mywyd, am iddi fy gwella o ddadrithiad. Fe'i argyhoeddaf bod y pleserau yr wyf heb gredu ynddynt yn wir bodoli yn y byd gwael hwn, a fy mod yn dal i allu profi rhithiau cadarn.[36]
Fe wnaethant fwynhau cwmni ac ymddiddan ei gilydd hyd at dymor yr hydref 1826, pan orfodwyd Leopardi i ddychwelyd i Recanati am gyfnod byr. Tra'r oeddent ar wahân, ni chyrhaeddodd Leopardi unrhyw ohebiaeth o'r Contessa, gan arwyddo iddo ddiwedd siomedig i'w cyfeillgarwch.[37] Dychwelodd i Bologna ar 26 Hydref 1826 ac aeth yn syth i ymweld â'r Contessa, am y tro olaf mae'n debyg.[38] O'r diwedd wedi cael llond bol ar ei annwyl Bologna, gadawodd y ddinas a dychwelodd i fwrw gaeaf arall yn ei dref enedigol, gan gyrraedd Recanati unwaith eto ar 11 Tachwedd 1826.[39]
Wedi iddo dreulio rhyw fisoedd anhapus yn Recanati, yn gyff gwawd y bechgyn lleol wrth iddo gerdded drwy strydoedd y dref, aeth Leopardi ar deithiau unwaith eto yn Ebrill 1827, yn gyntaf yn ôl i Bologna am ddeufis, ac yna ymlaen i Fflorens.[40] Yno, fe blymiodd i fywyd llenyddol un arall o ddinasoedd hanesyddol yr Eidal, gan geisio dod o hyd i'w safle ymhlith cyfoedion ac edmygwyr. Fe'i wahoddwyd i salon Gian-Pietro Vieusseux, un o ddynion amlycaf y ddinas yn yr oes hon, ond ni wnaeth Leopardi fawr o argraff ar eraill. Meddylfryd gwyddonol, yn enwedig dan ddylanwad syniadaeth y Saeson a'r Albanwyr, oedd y ffasiwn ymhlith cylchoedd llenyddol Fflorens ar y pryd, ac felly câi Leopardi, y gwaethafwr a cheingarwr, ei ynysu yn ysbrydol.[41]
Yn Fflorens, ymddangosodd tri o'r Operette Morali am y tro cyntaf yn L'Antologia, cyfnodolyn rhyddfrydol a gyhoeddwyd gan y Marchese Gino Capponi.[42] Cyhoeddwyd yr holl gasgliad ar ffurf llyfr yn haf 1827, ond cafodd dderbyniad gwael, ac eithrio adolygiad cefnogol gan ei hen gyfaill Giordani.[43] Cafodd hefyd elyniaeth gyhoeddus gydag un o'i fychanwyr, y newyddiadurwr Niccolò Tommaseo. Er gwaethaf ei ymdrechion, ychydig o gynnydd a wnaeth Leopardi yn Fflorens. Aeth i fwrw rhyw hanner blwyddyn, o ddiwedd 1827 i wanwyn 1828, yn Pisa, cyfnod o dawelwch a fu'n seibiant o'r siomedigaethau a'r anghydfodau.[44]
Waeth beth oedd agweddau ei gyfoedion tuag ato, dychwelodd i Fflorens yn haf 1828, a nodir y tro hwn am iddo gyfansoddi un o'i gerddi enwocaf, "A Silvia".[45] Ond cyfnod byr ydoedd, am iddo dderbyn newyddion am farwolaeth ei frawd iau, Luigi, a dychwelodd felly i Recanati yn Nhachwedd 1828.[46][47]
Profedigaeth deuluol oedd yr achlysur i ddychweliad olaf Giacomo Leopardi i'w dref enedigol, a diffygion ariannol a'i cadwodd yno am 16 mis arall. Yn ogystal â galaru Luigi, teimlai hefyd absenoldeb ei frawd agosaf, Carlo, yr hwn nad oedd croeso iddo yn Palazzo Leopardi wedi iddo briodi yn erbyn dymuniadau ei dad.[48] Heb y moddion i ddianc oddi wrtho'i feddwl ac obsesiynau ei hun, fe syrthiodd Giacomo i iselder dyfnach nag y gwyddai erioed. Dioddefai o bwl arall o offthalmia, gan ei atal rhag gweithio ar y Zibaldone.[49] Byddai'n cerdded am oriau, ar ben ei hunan, yn dal ei ben i lawr a'i ddwylo y tu ôl i'w gefn. Yn ddiweddarach, cyfyngai ei ymarfer corff i gerdded ar hyd ei ystafelloedd, er mwyn osgoi dod ar draws ei deulu hyd yn oed. Bwytaodd ei brydau ar ben ei hun, ei arfer ers ei ddyddiau yn Bologna, a dim ond unwaith y dydd.[50] Er i'r nam ar ei olwg barhau, fe luniodd restr o weithiau arfaethedig, gan gynnwys nofel hunangofiannol o'r enw Storia di un'anima; llyfr cwrteisi ar batrwm Il Galateo (1558) gan Giovanni della Casa; traethawd ar bwnc y nwydau athronyddol; a phenillion ar thema'r "grefft o fod yn anhapus". Er gwaethaf ei uchelgeisiau, ni ddaeth dim o'i gynlluniau llenyddol yn y cyfnod digalon hwn.[51]
O'r diwedd, profodd ddigon o ysbryd yn haf 1829 i gyfansoddi llu o benillion, ei eidylau diweddar: "Il passero solitario", "Le ricordance", "La quiete dopo la tempesta", ac "Il sabato del villaggio". At y rheiny ychwanegodd ei "Canto notturno di un pastore errante dell' Asia" yn nhymor y gaeaf 1829–30.[52] Ar 29 Ebrill 1830, gadawodd Leopardi Recanati am y tro olaf, gan dderbyn gwahoddiad oddi wrth y Cadfridog Pietro Colletta i gael ei gynnal yn ariannol yn Fflorens gan gymwynaswr neu gymwynaswyr di-enw, er mwyn iddo fyw'n gyfforddus fel llenor ymhlith llenorion.[53]
Teimlodd Leopardi groeso dyledus wrth iddo ddychwelyd i Fflorens, gan dderbyn taliad misol tuag at ei fywoliaeth. Ei gred ar yr adeg hon oedd ei fod yn elwa ar roddion ar y cyd gan gylch o'i gyfoedion, i gydnabod ei statws a'i gynnyrch llenyddol yn hytrach nag o ran tosturi. Ychydig fisoedd wedi i Leopardi gyrraedd, dychwelodd Antonio Ranieri—yr hwn a gyfarfu â Leopardi am y tro cyntaf yn Fflorens ym 1827[54]—hefyd i'r ddinas, ac yn Nhachwedd 1830 symudodd Ranieri i mewn i ystafelloedd y drws nesaf i breswylfa Leopardi.[55] Byrhoedlog fyddai ei lawenydd a'i ddiogelwch, fodd bynnag; collodd y Cadfridog Colletta ei amynedd ymhen flwyddyn, ac ar 10 Ebrill 1831 fe anfonodd i Leopardi randaliad olaf ei lwfans, gan roi wybod iddo taw efe, Colletta, yn unig a fu'n darparu'r arian, ac nid grŵp o gyfeillion.[56] O hynny ymlaen, cyfeillion mynwesol oedd Leopardi a Ranieri, yng nghwmni ei gilydd ran helaeth o'r amser, a daeth Leopardi i ddibynnu arno yn ei gyfnodau o iselder a salwch.[57] Teithiodd y ddau ohonynt i Rufain i fwrw'r gaeaf yn niwedd 1831, er enghraifft, ac yno dioddefodd Leopardi o lid ar y frest.[58] Dychwelasant i Fflorens ym Mawrth 1832.[59]
Ymserchai Leopardi unwaith eto ym menyw na fyddai'n dychwelyd ei gariad. Fanny Targioni-Tozzetti, gwraig i'r meddyg a botanegydd Antonio Targioni-Tozzetti, oedd gwrthrych ei serchiadau y tro yma. Cyflwynwyd Leopardi iddi gan y bardd Alessandro Poerio, a byddai ei gariad ffôl yn ysbrydoli'r esiamplau tristaf o'i farddoniaeth delynegol, a'r rheiny yng Nghylch Aspasia.[60] Yn y pum cerdd hon—"Il pensiero dominante", "Amore e Morte", "Consalvo", "A se stesso", ac "Aspasia"—clywir holl amrywiaeth emosiynol y bardd yn y cyfnod angerddol hwn. Anerchir "Il pensiero dominante" at ei syniad haniaethol o serch, sydd yn dystiolaeth o anterth ei deimladau drosti.[61] Ysbrydolwyd "Aspasia" hefyd gan ei gariad tuag at Fanny; Aspasia oedd llysenw y bardd amdani.[62] Yn "Amore e Morte" a "Consalvo", ceir cyfosodiadau o farwolaeth a chariad, themâu sydd yn nodweddiadol o'i besimistiaeth.[63] Er i Fanny oddef Leopardi am gyfnod, byddai'n rhaid iddo gydnabod ei doriad gyda hi yn Ionawr 1833.[64] Yn haf 1833, wedi iddo syrthio i anobaith eto, cyfansoddodd yr olaf o Gylch Aspasia, "A se stesso", cerdd hynod o ingol a dadlennol. Byddai torcalon Leopardi yn barhaol y tro hwn: ni fyddai'n ysgrifennu unrhyw gerddi serch eraill am weddill ei oes, a rhoddai'r gorau hefyd i ychwanegu at ei ddyddlyfr, y Zibaldone.[65]
Dirywiai ffawd Leopardi ymhob modd. Yn gyntaf, gwrthododd llywodraeth Toscana ganiatâd iddo lansio cylchgrawn wythnosol, y byddai wedi ei alw'n Lo Spettatore.[66] Gwaethygodd ei iechyd ac aeth ei gyflwr yn wanychol o ganlyniad i byliau o offthalmia yn ogystal â meigryn eithafol. Byddai'n treulio'r dydd yn y gwely, â'r llenni wedi'u tynnu, yn methu â darllen na chlywed eraill yn darllen iddo, yn deffro gyda'r nos ac yn mynd i gysgu cyn y wawr.[67] Beth bynnag fo'i iechyd, cafodd ei hun yn gymdeithasol ynysig wrth i'w gylch o gyfeillion chwalu. Bu farw'r Cadfridog Colletta yn Nhachwedd 1831, a chafodd Leopardi drafferthion gyda'i gymar agosaf, Ranieri. Gwaharddwyd y cylchgrawn Antologia gan y llywodraeth, a gyrrwyd Giordani ac eraill o'r cylch hwnnw yn alltud o Fflorens. Ar 2 Medi 1833, gadawodd Leopardi a Ranieri y ddinas.[68] Treuliasant dair wythnos yn Rhufain ar eu ffordd i Napoli, dinas enedigol Ranieri, lle cyrhaeddon nhw ar 1 Hydref 1833.[69]
Wedi iddo gyrraedd Napoli, arhosodd Leopardi yn y Palazzo Cammarota, ger Via Toledo, ar lethr y Vomero, am ddeunaw mis bron. Mae atgofion Leopardi a Ranieri yn disgrifio'r cyni a phryder affwysol a fu'n drwm arnynt yn y cyfnod hwn.[70] Dibynnodd Leopardi ar gymorth ei gyfaill yn ddi-baid, a daeth chwaer Ranieri, Paolina, yn nyrs iddo. Ym Mai 1835, symudodd Leopardi a Ranieri i'r Capodimonte, ardal uwch o'r ddinas, a byddai Paolina hefyd yn byw yno i ofalu amdano lawn amser.[71] Dioddefodd Leopardi o anhunedd, camdreuliad, a diffyg anadl, ac amryw symptomau nerfol a fyddai'n cael eu galw'n ddiweddarach gan yr enw "niwrasthenia". Er gwaethaf ei boen, gwrthododd Leopardi gyngor ei feddyg i roi'r gorau i fwydydd melys.[72] Ym 1835 cyfansoddodd "Palinodia", ymosodiad dychanol ar daliadau Gino Capponi a'i gylch; na châi'r gerdd hon dderbyniad da. Yn niwedd y flwyddyn, cychwynnodd ar ei ddychangerdd "I Paralipomeni della Batracomiomachia", parodi o Chwyldro'r Ddwy Sisili ym 1820 ar batrwm yr arwrgerdd ddigrif Batrachomyomachia; byddai'n cyflawni'r gerdd honno ychydig o ddyddiau cyn ei farwolaeth.[73]
Treuliodd Leopardi a Ranieri dri mis, o Ebrill i Fehefin 1836, mewn fila ar lethr Vesuvius, gyda threm ar Torre del Greco, rhyw ddeuddeng milltir o Napoli.[74] Aethant yn ôl i'r fila yn Awst 1836 er mwyn dianc rhag epidemig y geri yn Napoli, a pharhaent yno trwy gydol y gaeaf, yn yr oerfel a'r lleithder, gan beri dioddef chwyddo, llid ar y frest, a thwymyn i Leopardi.[75] Fodd bynnag, cyflawnodd rai o'i benillion tyneraf a harddaf yn y misoedd hyn, gan gynnwys ei alargerdd olaf "Il tramonto della luna", a "La ginestra", y gerdd hiraf o'i holl Canti. Mae'r enw ginestra yn cyfeirio at y banadl sydd yn blodeuo ar lethrau Vesuvius, ac wedi ei farwolaeth rhoddwyd yr enw Villa della Ginestra ar y fila er cof am y bardd.[76] Dychwelodd y ddau ohonynt i Napoli yn Chwefror 1837, a gwaethygodd epidemig y geri yn y ddinas wedyn, ond bu salwch Leopardi yn ormod iddo fentro'r daith yn ôl i Torre del Greco.[77] Yn ei wythnosau olaf, dioddefodd o asthma a rwystrodd rhag cerdded, gorwedd i lawr, a chysgu, a philen ar ei lygad dde.[78] Tybiodd ei feddygon, ar gam mae'n debyg, ei fod yn dioddef o'r dyfrglwyf, a chafodd ei gynghori i ddychwelyd i Torre del Greco ym Mehefin, yn y gobaith byddai'r awyr sychach yn lliniaru ei iechyd.[79] Ar 14 Mehefin 1837, y diwrnod yr oedd disgwyl iddynt gychwyn ar y daith i Torre del Greco, deffrodd Leopardi yn teimlo'n weddol dda, a llwyddodd i arddweud llinellau olaf "Il tramonto della luna" i Ranieri.[80] Yn fuan, fodd bynnag, teimlodd ei asthma yn gwaethygu, ac aeth Ranieri i chwilio am feddyg, a wnaeth alw am offeiriad i roi'r eneiniad olaf iddo. Erbyn i'r offeiriad gyrraedd, bu farw Giacomo Leopardi o fethiant llwyr y galon, yn 38 oed.[81]
Ac eithrio ei erthyglau ysgolheigaidd ym maes ieitheg, dim ond ychydig o waith Leopardi a gyhoeddwyd yn ystod ei oes, sef ei Canti a'i Operette morali. Ar y cychwyn, ni châi ei farddoniaeth ei chydnabod am ei athrylith gan ddarllenwyr yn yr Eidal. Ystyriwyd ei eidylau yn ddigon swynol a delfrydoledig, ond yn ostyngol a chul eu gweledigaeth. Cyhoeddwyd y Zibaldone am y tro cyntaf ym 1898–1900, i ddathlu canmlwyddiant ei enedigaeth. O ganlyniad, gwrthbwyswyd radicaliaeth y bardd yn llygaid y beirniaid. Ar y llaw arall, bu ei farddoniaeth serch yn rhy ddeallusol a myfyrgar i fod yn boblogaidd.[82] Cesglid ei lythyrau o'r diwedd yn nechrau'r 20g, a fe'u cyhoeddwyd mewn argraffiad dan olygyddiaeth y beirniad Francesco Moroncini ac eraill ym 1934–41.[83]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.