Pisa
dinas yn yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Pisa, sy'n brifddinas talaith Pisa yn rhanbarth Toscana. Saif ger aber Afon Arno.
Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 85,858.[1]
Adeilad enwocaf Pisa yw'r tŵr, y dywedir bod Galileo wedi talu pethau oddi arno i weld pa mor gyflym y syrthiai gwahanol bethau. Yn y Canol Oesoedd, roedd Pisa yn weriniaeth annibynnol. Cyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y 12fed a'r 13g, pan oedd ei meddiannau yn cynnwys ynys Sardinia. Daeth ei hannibyniaeth i ben yn 1406, pan goncrwyd hi gan Fflorens. Dynodwyd y Piazza del Duomo yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Yr eglwys gadeiriol
- Y tŵr (Campanile / y "Tŵr Gogwyddol" neu'r "Tŵr Cam")
- Y bedyddfa (Battistero)
- Mynwent y Campo Santo
|
Pobl enwog o Pisa
- Fibonacci (tua 1170–tua 1250), mathemategydd
- Galileo Galilei, (1564–1642), gwyddonydd a seryddwr
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads