From Wikipedia, the free encyclopedia
Llecyn cymylog yn lens y llygad sy'n amharu ar y golwg yw pilen (hefyd rhuchen, magl, cataract). Mae pilennau yn aml yn datblygu yn araf ac yn gallu effeithio ar un neu'r ddwy lygad. Gall symptomau gynnwys pyliad lliwiau, gweld yn aneglur, lleugylchoedd o amgylch golau, anhawster gyda goleuadau llachar, a thrafferth gweld yn y nos.[1] Gall hyn arwain at drafferth wrth yrru, darllen, neu adnabod wynebau.[2] Gall golwg gwael sy'n cael ei achosi gan bilennau hefyd gynyddu'r risg o gwympo ac iselder.[3] Pilennau sydd y tu ol i hanner yr achosion o ddallineb a 33% o'r achosion o nam ar y golwg ledled y byd.[4][5]
Enghraifft o'r canlynol | arwydd meddygol, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd lens, monogenic disease, clefyd, clefyd y llygad |
Symptomau | Nam ar y golwg, diplopia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pilennau gan amlaf yn ganlyniad i heneiddio ond gall ddigwydd o ganlyniad i drawma neu amlygiad i ymbelydredd, gall fod yn bresennol ers genedigaeth, neu ddilyn triniaeth llygad oherwydd problemau eraill.[6] Mae ffactorau risg yn cynnwys clefyd siwgr, ysmygu tobacco, gormod o olau haul, ac alcohol. Gall naill ai clympiau o brotein neu bigment melyn-brown sydd yn y lens ostwng trawsyrriant golau i'r retina yng nghefn y llygad. Ceir diagnosis trwy archwilio'r llygad.
Mae dulliau o atal pilennau yn cynnwys gwisgo sbecotl haul a pheidio ag ysmygu. Yn y cyfnod cynnar gellir gwella'r symptomau trwy wisgo sbectol. Os nad yw hynny'n helpu, yr unig dull effeithiol o'i drin yw trwy driniaeth i dynu'r lens gymylog a'i chyfnewid am lens artiffisial. Dim ond os yw'r pilennau'n achosi problemau y bydd angen triniaeth, ac mae hynny fel arfer yn gwella ansawdd bywyd y claf.[7] Nid oes triniaeth pilennau ar gael mewn nifer o wledydd, ac yn arbennig ar gyfer menywod, pobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a'r rhai na all ddarllen.
Mae tua 20 miliwn o bobl yn ddall o ganlyniad i bilennau. Pilennau sydd y tu ol i tua 5% o'r achosion o ddallineb yn yr Unol Daleithiau a bron 60% o'r achosion o ddlalineb mewn rhannau o Affrica a De America.[8] Mae dallineb o ganlyniad i bilennau i'w weld mewn tua 10 i 40 o bob 100,000 o blant yn y byd sy'n datblygu, ac 1 i 4 o bob 100,000 o blant yn y byd datblygedig.[9] Mae pilennau yn dod yn fwy cyffredin gydag oedran. Mae dros hanner pobl yn yr Unol Daleithiau wedi cael pilennau erbyn y byddant yn 80 oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.