Remove ads
cynhyrchydd, actor a chyfansoddwr a aned yn 1943 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerddor o Lerpwl oedd George Harrison (25 Chwefror 1943 - 29 Tachwedd 2001). Roedd yn brif gitarydd i'r grŵp roc holl-boblogaidd, 'The Beatles', ac ar ôl i'r grŵp wahanu bu'n aelod o grwp o'r enw Traveling Wilburys; a chafodd ei adnabod fel cerddor llwyddiannus. Roedd yn ymddiddori mewn cyfriniaeth o India a chyflwynodd hwn i'r gyfeillion ac eraill. Cafodd ei enwi fel yr 11eg gitarydd gorau erioed yng nghylchgrawn y Rolling Stones: "100 Greatest Guitarists of All Time".[1]
George Harrison | |
---|---|
Ffugenw | Carl Harrison, Hari Georgeson, Nelson Wilbury, Spike Wilbury, George Harryson, George O’Hara-Smith, L'Angelo Misterioso, Jorge Arias, Magpie |
Ganwyd | 25 Chwefror 1943 Lerpwl, 12 Arnold Grove |
Bu farw | 29 Tachwedd 2001 o canser yr ysgyfaint Los Angeles |
Label recordio | Apple Records, Capitol Records, Dark Horse Records, EMI, Parlophone Records, Vee-Jay Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, cyfansoddwr caneuon, actor, garddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd, bardd, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, actor ffilm, gitarydd bas, cerddor, artist recordio, offerynnau amrywiol |
Adnabyddus am | Something, Here Comes the Sun, My Sweet Lord, Beware of Darkness, Isn't It a Pity, All Things Must Pass, Taxman, Within You Without You, I Need You, What Is Life, Cheer Down, While My Guitar Gently Weeps, If I Needed Someone |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc seicedelig, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd, raga rock, beat music, roc gwerin |
Prif ddylanwad | Chuck Berry, Ravi Shankar, Carl Perkins |
Tad | Harold Hargreaves Harrison |
Mam | Louise Anne Harrison |
Priod | Pattie Boyd, Olivia Harrison |
Plant | Dhani Harrison |
Gwobr/au | Gwobr Gerdd Billboard, Rock and Roll Hall of Fame, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, MBE, Gwobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Gorau |
Gwefan | http://georgeharrison.com/ |
llofnod | |
Ei wraig gyntaf oedd y fodel enwog Patti Boyd (rhwng 1966 a 1974) a'i ail oedd Olivia Trinidad Arias a chawsant fab o'r enw Dhani Harrison. Roedd yn gyfaill mynwesol i'r cerddor Eric Clapton.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.