Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae canser yr ysgyfaint, a elwir hefyd yn garsinoma'r ysgyfaint,[1] yn diwmor ysgyfaint ffyrnig lle mae celloedd ym meinweoedd yr ysgyfaint yn tyfu'n afreolus.[2] Gall y fath dwf ledaenu tu hwnt i'r ysgyfaint drwy broses metastasis, a hynny i feinweoedd cyfagos neu hyd yn oed rannau eraill o'r corff.[3] Mae'r rhan fwyaf o ganserau sy'n dechrau yn yr ysgyfaint, a elwir yn ganserau sylfaenol yr ysgyfaint, yn garsinomâu. Y ddau brif fath yw carsinoma ysgyfaint celloedd bychain (SCLC) a charsinoma ysgyfaint digelloedd bychain (NSCLC).[4] Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin y mae peswch (gan gynnwys peswch gwaed), colli pwysau, prinder anadl, a phoenau ynghylch y frest.[5]
Enghraifft o'r canlynol | clefyd prin, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | canser y system resbiradol, afiechyd yr ysgyfaint, lung neoplasm, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Symptomau | Poen y frest, peswch, hemoptysis, blinder meddwl, colli pwysau, anorecsia, diffyg anadl, gwichian wrth anadlu |
Achos | Asbestosis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Achosir y mwyafrif helaeth (85%) o achosion canser yr ysgyfaint gan arfer ysmygu tybaco hirdymor.[6] Ceir tua 10–15% o achosion mewn pobl nad ydynt erioed wedi ysmygu.[7] Dim ond oddeutu 10-15% o ddioddefwyr sydd heb arferiad ysmygu. Mae'n bosib esbonio'r achosion hynny drwy gyfuniad o ffactorau genetig ynghyd â datguddiad i nwy radon, asbestos, mwg ail-law, neu fathau eraill o lygredd amgylcheddol.[6] Gellir archwilio canser yr ysgyfaint drwy radiograffau'r frest a sganiau tomograffeg cyfrifiadurol (CT). Caiff diagnosis ei gadarnhau gan fiopsi sydd fel arfer yn cael ei berfformio gan froncosgopi neu gyfarwyddyd CT.[8]
Rhaid osgoi ffactorau risg sylfaenol er mwyn atal y clefyd, er enghraifft ysmygu a datguddiad i amgylched llygredig.[9] Mae'r driniaeth a roddir a'r canlyniadau hirdymor yn ddibynnol ar y math o ganser, y bennod (graddfa lledaenu), ynghyd ag iechyd cyffredinol y dioddefwr. Ni ellir gwella'r rhan fwyaf o achosion. Mae'r triniaethau cyffredin yn cynnwys llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi. Caiff NSCLC ei drin yn achlysurol drwy lawdriniaeth, fel arfer y mae SCLC yn ymateb yn well i gemotherapi a radiotherapi.[10]
Yn 2012, effeithiodd canser yr ysgyfaint ar 1.8 miliwn o bobl ar draws y byd, gan arwain at 1.6 miliwn o farwolaethau.[11] Hwn felly sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau cysylltiedig â chanser ymysg dynion, a'r nifer mwyaf cyffredin ond un ymysg menywod, ar ôl canser y fron.[12] Yr oedran mwyaf cyffredin ar gyfer diagnosis yw 70. Yn yr Unol Daleithiau, yn yr un flwyddyn, goroesodd 17.4% o ddioddefwyr am bum mlynedd o leiaf wedi eu diagnosis,[13] ond y mae'r cyfartaledd hwnnw dipyn yn is yn y byd sy'n datblygu.[14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.