From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad protest o Wcrain ydy FEMEN (neu Фемен) a sefydlwyd yn Kiev yn 2008 ond sydd a'i HQ yn Paris.
Daeth y mudiad yn enwog drwy'r byd am drefnu protestiadau bronnoeth yn erbyn y diwydiant rhyw, yn erbyn sefydliadau crefyddol ac "asiantau priodas rhyngwladol" yn ogystal â nifer eraill o faterion llosg, rhyngwladol.[1][2][3][4][5][6][7] Ymhlith amcanion y mudiad y mae: "datblygu arweinyddiaeth, nodweddion deallusol a moesol merched ifanc yr Wcrain. Mae gweithredwyr FEMEN wedi cael eu cadw'n gaeth yn aml gan heddlu Wcrain oherwydd eu protestiadau.[8]
Asgwrn cefn y mudiad pan gafodd ei ffurfio oedd merched 18-20 oed o brifysgolion y wlad. Yn Kiev, ceir oddeutu 300 o aelodau gweithredol o fewn y mudiad.[9] Llond dwrn o ddynion sy'n aelodau o FEMEN.[1] Mae oddeutu 20 o ferched sy'n barod i fron-noethi. Cafwyd y rhan fwyaf o'u protestiadau yn kiev, ond fe gafwyd protestiadau hefyd yn [2][6]Odessa,[10] Dnipro[11] a Zaporizhia.[12]
Un o'u hamcanion yw "ysgwyd merched yr Wcrain gan eu hysgogi i weithredu'n gymdeithasol a threfnu erbyn 2017 chwyldro'r ferch."[9] Cred y grŵp iddynt gael peth llwyddiant yn eu hymdrech i osod eu hagenda yn llygad y byd.[13] Yn Ebrill 2010 bu'r grŵp yn pendroni a fyddai'n sefyll mewn etholiadau seneddol.[1][9][14] Fodd bynnag, dewisiodd beidio a gwneud hynny.[15]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.