Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Zaporizhzhia yw Zaporizhzhia (Wcreineg: Запоріжжя, Rwseg: Запорожье trawslythreniad: Zaporozhye) a saif ar Afon Dnieper. Ei henw hanesyddol, hyd at 1921, oedd Oleksandrivsk (Wcreineg: Олекса́ндрівськ, Rwseg: Александровск Aleksandrovsk).

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Zaporizhzhya
Thumb
Trem yn y nos ar Rodfa'r Gadeirlan (Prospekt Sobornyi), yng nghanol Zaporizhzhia.
Thumb
Mathdinas fawr, dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin 
Enwyd ar ôlZaporozhzhia 
Poblogaeth710,052 
Sefydlwyd
  • 952 
Pennaeth llywodraethRehina Kharchenko 
Cylchfa amserAmser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+2, UTC+03:00 
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg 
Daearyddiaeth
SirZaporizhzhia urban hromada, Cyngor Dinas Zaporozhye, Zaporozhye okruga, Yekaterinoslav, Zaporizhzhia Governorate, Yekaterinoslav 
Gwlad Wcráin
Arwynebedd331 km² 
Uwch y môr86 metr 
GerllawAfon Dnieper 
Cyfesurynnau47.85°N 35.1175°E 
Cod post69001–69124 
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Zaporozhye 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
city head 
Pennaeth y LlywodraethRehina Kharchenko 
Thumb
Cau

Codwyd cadarnle yma ym 1770, fel un o'r amddiffynfeydd ar hyd ffin ddeheuol Ymerodraeth Rwsia yn erbyn Chaniaeth y Crimea. Dewiswyd y safle am ei bod yn agos i bencadlys hanesyddol y Cosaciaid ar Ynys Khortitsa, i dde rhaeadrau'r Dnieper, er mwyn atgyfnerthu rheolaeth Rwsia ar Gosaciaid Zaporizhzhia yn sgil diddymu'r Hetmanaeth. Dyrchafwyd Oleksandrivsk yn dref ym 1806, a thyfodd yn gyffordd bwysig wrth gludo nwyddau, yn enwedig wedi adeiladu'r rheilffordd yn y 1870au.

Achoswyd difrod mawr i Oleksandrivsk yn ystod Chwyldro Rwsia (1917–20). Dan lywodraeth Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, ailenwyd ac adferwyd y dref, a ffynnai'r economi yn sgil adeiladu Gorsaf Drydan Dŵr y Dnieper ym 1927–32. Boddwyd rhaeadrau'r Dnieper o ganlyniad i'r argae a godwyd fel rhan o'r orsaf drydan dŵr. Dinistriwyd yr argae gan y Fyddin Goch ym 1941 er mwyn atal yr Almaen Natsïaidd rhag ei gipio. Ailadeiladwyd yr argae a'r pwerdy gan y llywodraeth Sofietaidd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd diwydiant meteleg Zaporizhzhia ar sail yr orsaf drydan dŵr, gan gynnwys gweithfeydd haearn a dur a melin stribedi a barrau, a cheir hefyd ffatrïoedd i gynhyrchu ceir ac offer trydanol ac i droi sgil-gynhyrchion côc yn gemegion diwydiannol.[1]

Gostyngodd y boblogaeth o 815,000 yn 2001 i 799,000 yn 2005,[1] ac i 755,000 yn 2016.[2]

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.