Ellis Wynne

Llenor crefyddol a chyfieithydd ac awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1671 - 1734) From Wikipedia, the free encyclopedia

Ellis Wynne

Llenor crefyddol a chyfieithydd o Gymru oedd Ellis Wynne (7 Mawrth 1671 - 13 Gorffennaf 1734). Mae'n adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a ystyrir yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Ellis Wynne
FfugenwY Bardd Cwsc 
Ganwyd7 Mawrth 1671 
Y Lasynys Fawr 
Bu farw13 Gorffennaf 1734 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, bardd 
PlantWilliam Wynn 
Cau
Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cau
Ffeithiau sydyn
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Cau

Bywgraffiad

Ganed Ellis Wynne yn y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng Talsarnau a Harlech, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd), yn fab i Edward Wynne o blasdy Glyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu Brogyntyn, ger Croesoswallt. Trwy ei daid, Elis Wyn, roedd Ellis Wynne yn perthyn i John Jones, Maesygarnedd, un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin Charles I.

Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg Amwythig. Mae cerdd Ladin gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg Biwmares yn ogystal. Aeth i Rydychen lle graddiodd ar y 1af o Fawrth 1692, yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn Edward Lhuyd tra oedd yno. Ym Medi 1698 priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad a diacon yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn Rhagfyr 1704. Daeth yn rheithor plwyfi Llanbedr a Llandanwg yn 1705 ac wedyn cafodd ofalaeth Llanfair, ger Harlech, yn 1710. Yn 1711 priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd o Hafod Lwyfog (ger Aberglaslyn) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes. Bu farw y 13 Gorffennaf 1734 a'i gladdu yn Eglwys Llanfair.

Gwaith llenyddol

Cyfieithodd Ellis Wynne Rheol Buchedd Sanctaidd (o waith Saesneg Jeremy Taylor) yn 1701 ac argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1710.

Fodd bynnag, ei brif waith llenyddol yw'r testun rhyddiaith Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (Gweledigaethau'r Bardd Cwsg) (1703), sy'n seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645). Ychwanegiad Wynne yw'r ffigwr y 'bardd cwsc' fel prif gymeriad. Mae'r bardd cwsg yn cael tair gweledigaeth fel mae'n mordwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc a'i chwaer Hunllef ym Mrenhinllys isa Angau, sef eu brawd. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae hefyd apêl grefyddol rymus i'r testun, yn galw ar y Cymry i ymateb i'r gweledigaethu gan droi at yr Eglwys, ymhle y gallent ddilyn Duw yn gywir, yn ôl safbwyntiau'r testun. Mae Wynne yn dangos meistrolaeth ar Gymraeg safonol y Beibl a'r traddodiad llenyddol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo, ond nid oes tystiolaeth iddo ymroi i'r gwaith. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir darnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.

Roedd Ellis yn gasglwr a chopïydd llawysgrifau Cymreig yn ogystal. Un o'r llawysgrifau a gafodd oedd un yn cynnwys nifer o gerddi darogan, gan gynnwys rhai a dadogwyd ar "Y Bardd Cwsg" a Rhys Fardd, mae traddodiad o gysylltu'r ddau gyda'i gilydd, ond yn y llawysgrifau a welodd Wynne, maent yn ymddangos fel dau bersona, os nad dau berson gwahanol, felly y maent yn nisgrifiadau ei gyfoedion o'u cynnwys. Nid oes tystiolaeth o blaid cred Gwyn Thomas mai Rhys Fardd yw'r 'Bardd Cwsg' yn y testun hwn o leiaf.

Nid ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ond mae un o'i gerddi, 'Gadel Tir', a geir ar ddiwedd ail ran Gweledigaethau'r Bardd Cwsg yn glasur bach sydd wedi ennill ei lle mewn sawl blodeugerdd Gymraeg. Ysgrifennodd y beirdd Siôn Rhydderch a Robert Humphrey gywyddau iddo. Cyfansoddodd sawl emyn yn ogystal. a'r enwocaf yw'r un sy'n cychwyn gyda'r llinell 'Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr.'

Llyfryddiaeth

Gwaith Ellis Wynne

Cafwyd sawl argraffiad o'r Gweledigaethau, e.e. gan D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1842, 1865)[1] a Syr John Morris-Jones (Bangor, 1898). Y diweddaraf yw:

  • Gweledigaethau y Bardd Cwsc, gol. Aneirin Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960)
  • Rheol Buchedd Sanctaidd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Ceir testun hwylus o'r gerdd "Gadel Tir" yn Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg gol. Thomas Parry.

Llyfryddiaeth

  • R. M. Jones, Angau Ellis Wynne (Aberystwyth, 1968)
  • Gwyn Thomas, 'Ellis Wynne, y Lasynys' yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1966)
  • Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (Caerdydd, 1971). Astudiaeth gynhwysfawr.
  • Gwyn Thomas, Ellis Wynne (Cyfres Writers of Wales, 1984)
  • Gwyn Thomas, 'Gweledigaethau y Bardd Cwsg: The Visions of the Sleeping Bard (1703)'. Zeitschrift für celtische Philologie 52 (2001): 200–10.

Cyfeiriadau

Oriel

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.