Detholiad o gerddi gan sawl awdur wedi'u casglu ynghyd yw blodeugerdd . Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati. Dros y blynyddoedd cafwyd sawl enghraifft o flodeugerdd Gymraeg. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg .
Dyma restr ddethol o flodeugerddi Cymraeg:
Blodeugerddi a gyhoeddwyd cyn 1900
Flores Poetarum Britannicorum (1710 ), gol. Dafydd Lewys , Llanllawddog , o gasgliad gan y Dr. John Davies, Mallwyd
Tlysau yr Hen Oesoedd (1735 ), gol. Lewis Morris
Blodeu-gerdd Cymry (1759 a 1779 ), gol. Dafydd Jones o Drefriw
Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759 ), gol. Huw Jones , Llangwm
Diddanwch Teuluaidd (1763 ), gol. Huw Jones , Llangwm
Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (1764 ), gol. Evan Evans (Ieuan Fardd)
Gorchestion Beirdd Cymru (1773 ), gol. Rhys Jones o'r Blaenau
Blodau Dyfed (1824 ), gol. John Howell
Caniadau Cymru (1897 ; adargraffiad 1907), gol. William Lewis Jones
Blodeugerddi diweddar
Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg , gol. Bedwyr Lewis Jones
Cywyddau Cymru (1908 ; adargraffiad 1926), gol. Arthur Hughes
Y Flodeugerdd Newydd (1909 ), gol. W. J. Gruffydd
Blodeuglwm o Englynion (1920 ), gol. W. J. Gruffydd
Rhwng Doe a Heddiw: Casgliad o delynegion Cymraeg (1926 ), gol. W. S. Gwynn Williams
Y Flodeugerdd Gymraeg (1931 ), gol. W. J. Gruffydd
Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (1936 ), gol. Gwenallt
Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (1962 ), gol. Thomas Parry
Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1965), gol. Bedwyr Lewis Jones
Yr Awen Ysgafn (1966 ), gol. Urien Wiliam
Y Flodeugerdd o Gywyddau (1981), gol. Donald Evans
Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (1985 ), gol. Alan Llwyd
Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (1987 ), gol. Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd
Cadwn y Mur: Blodeugerdd Barddas o Ganu Gwladgarol (1990), gol. Elwyn Edwards
Y Flodeugerdd Englynion Newydd (2009), gol. Alan Llwyd