Datganoli Cernyweg yw'r mudiad i gynyddu pwerau llywodraethu Sir Gernyw.[1]
Rheoaeth Seisnig
Ym 1066, goresgynnwyd llawer o Gernyw gan y Normaniaid [2] ac mae'n bosibl i Brian o Lydaw gael ei wneud yn iarll Cernyw gan William y Concwerwr. Dychwelodd rhai o Gernywiaid i Gernyw o Lydaw yn dilyn goresgyniad blaenorol gan yr Eingl-Sacsoniaid.[3]
Crëwyd arglwyddiaeth Iarll Cernyw a'i phenodi gyntaf i Gondor Cernyw, goroeswr o linach frenhinol Cernyw.[4]
Dugiaeth Cernyw
Ffurfiwyd Dugiaeth Cernyw ym 1337 gan frenin Lloegr Edward III ar gyfer ei fab cyntaf anedig, y Tywysog Edward ac roedd siarter yn nodi y byddai hyn yn parhau yn yr un modd ar gyfer pob mab hynaf i frenhiniaeth Lloegr. Dug Cernyw yw'r teitl a roddir i ddeiliad Dugiaeth Cernyw ac mae'r Dug yn dal rhai hawliau yng Nghernyw ac yn berchen ar yr arfordir a gwelyau afonydd o amgylch Cernyw yn ogystal â'r elw sylweddol a gynhyrchir ohono. Mae'r elw hwn yn cyfrannu at gymorth ariannol Dug Cernyw o Loegr. [5]
Gwrthryfel Cernyw a Senedd Stannery
Ym 1497, gorymdeithiodd Michael Joseph An Gof a Thomas Flamank a byddin Gernywaidd i Lundain i brotestio yn erbyn codi trethi gan Harri VII a oedd yn ceisio cynyddu eu cyllid ar gyfer rhyfel yn erbyn yr Albanwyr. Gorchfygwyd y fyddin Gernywaidd a dienyddiwyd An Gof a Flamank. Er hyn, mae'n bosib fod y gwrthryfel wedi dylanwadu ar benderfyniad Harri VII i gyflwyno'r Siarter Pardwn ym 1508 a roddodd bwerau i Senedd Stannary i roi feto ar ddeddfwriaeth Seisnig yng Nghernyw. [4]
Deddf Llywodraeth Leol 1888
Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol 1888 Gernyw fel sir weinyddol a sefydlodd Gyngor Sir Cernyw.[6]
Bargen ddatganoli 2015 Cernyw
Yn 2015 Cernyw oedd y sir gyntaf yn Lloegr i dderbyn pwerau datganoledig newydd a oedd yn cynnwys;
- Pwerau i Gyngor Cernyw fasnachfreinio a gwella gwasanaethau bysiau
- Cynllun integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Cyngor Cernyw a Chyngor Ynysoedd Sili
- Dewis y Cyngor o brosiectau ar gyfer buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd
- Cynyddu mewnbwn Partneriaeth Menter Leol (LEP) Cernyw ac Ynysoedd Sili ar gyfer gwella sgiliau
- Symleiddio gallu LEP i integreiddio gwasanaethau lleol a chenedlaethol i gryfhau cwmnïau yng Nghernyw.[1]
2016: Pwerau'r iaith Gernyweg
Yn 2016 trosglwyddwyd awdurdod ar gyfer y Gernyweg (a gydnabyddir o dan y Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol yn 2003) i Gyngor Cernyw oddi wrth y llywodraeth y DU. [7]
2022: Pŵer datganoledig pellach
Ym mis Rhagfyr 2022 yn Spaceport Cernyw , cyhoeddodd Dehenna Davison yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros "Leveling Up" becyn gwerth £360m yn trosglwyddo pwerau adeiladu a sgiliau i Gyngor Cernyw. Byddai'r cytundeb hefyd yn caniatau Maer rhanbarthol (Meryon Kernow) a etholwyd yn uniongyrchol i Gernywyn debyg i un Llundain Fwyaf. Mae'r pwerau wedi'u cynllunio i roi "mwy o reolaeth i'r cyngor a'r Maer/ Meryon dros gyllidebau trafnidiaeth, adeiladu, darparu sgiliau, a mwy o ddylanwad gyda'r llywodraeth i fynd i'r afael â heriau ail gartrefi" [8] [9]
Cynulliad/Senedd Cernyweg
Ffurfiwyd Confensiwn Cyfansoddiadol Cernyweg yn 2000 fel sefydliad trawsbleidiol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i ymgyrchu dros greu Cynulliad Cernyweg, [10] tebyg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban. Rhwng 5 Mawrth 2000 a Rhagfyr 2001, casglodd yr ymgyrch lofnodion 41,650 o drigolion Cernyw yn cymeradwyo'r alwad am gynulliad datganoledig, ynghyd ag 8,896 o lofnodwyr o'r tu allan i Gernyw. Cyflwynwyd y ddeiseb ddilynol i'r Prif Weinidog, Tony Blair.[10]
Mae’r blaid Gernyweg Mebyon Kernow wedi galw am greu Cynulliad neu senedd Gernywaidd yn sgil uwchgynhadledd yr G7 yng Nghernyw, gan ddweud: “...pa waddol well allai fod na chydraddoldeb â rhannau Celtaidd eraill y DU, fel yr Alban a Chymru, o ran dylanwad a buddsoddiad, a bargen ddatganoli gynhwysfawr, a fyddai'n darparu Cynulliad neu Senedd Cernywaidd?" [11]
Rhesymau allweddol a awgrymir dros ddatganoli
Mae rheolwr gyfarwyddwr Ginsters Mark Duddridge wedi cynnig buddiannau allweddol o ddatganoli mwy o bwerau i Gernyw:
- arbenigedd mewn trin arian cyhoeddus ar raddfa fawr yng Nghernyw
- dealltwriaeth a pherthynas waith dda gyda phartneriaid lleol a chanlyniadau da i fuddsoddwyr (yn dilyn profiad y datganoli blaenorol)
- gwybodaeth leol dda a llwyddiant gyda'r datganoli blaenorol
- arafwch y gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol gyda llywodraeth y DU a’r risg o golli buddsoddwyr
- traddodiad yng Nghernyw fel maes masnachu rhyngwladol
- sicrhau £14/15 miliwn o fuddsoddiad mewn pythefnos oherwydd gwybodaeth dda am fusnes a buddsoddwyr
- y busnesau canlynol yng Nghernyw: busnes gwynt alltraeth, geo-adnoddau, geowyddoniaeth, busnes lithiwm, busnes cronfa ddata, busnes gofod [12]
Adroddiad datganoli
Awgrymodd adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR), melin drafod annibynnol, fod Cernyw wedi “gordyfu” y fargen ddatganoli wreiddiol 2015.
Awgrymodd Sarah Longlands, cyfarwyddwr IPPR North fod Cernyw angen “y pŵer a’r adnoddau i allu symud ymlaen a chyflawni’r gwaith, yn hytrach nag aros i’r llywodraeth ganolog wneud y cam nesaf” ac yn seiliedig ar eu hymchwil ei fod yn "glir bod Cernyw wedi gwneud y gorau o’r cytundeb datganoli gweddol gyfyngedig a gynigiwyd yn wreiddiol.” Awgrymodd Longlands hefyd, oherwydd dirywiad y diwydiant lletygarwch yn ystod pandemig COVID-19 ac “ansicrwydd Brexit, nawr yw’r amser i roi datganoli go iawn i Gernyw sy’n golygu bod ganddyn nhw’r pwerau economaidd a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gefnogi sefydliad cryf. ac adferiad teg.” [13]
Uchelgeisiau datganoli cynghorau
- Mae arweinydd cyngor Cernyw wedi galw am ddatganoli pwerau treth ail gartrefi i Gyngor Cernyweg, yn debyg iawn i Gymru fel bod trigolion lleol yn gallu fforddio tai lleol yn eu cymunedau eu hunain yn well.
- Mae gan y cyngor uchelgeisiau ar gyfer datganoli pellach i Gernyw sy'n cynnwys rheolaeth bellach dros gynllunio a threthiant er mwyn rheoli twristiaeth yn well yng Nghernyw.
- Mae'r cyngor hefyd eisiau pwerau datganoli ar gyfer Porthladd Rhad yng Nghernyw, gan gynnwys Maes Awyr Cei Newydd a dociau Falmouth.
- Mae porthladd rydd Cernyweg gan gynnwys Maes Awyr Cei Newydd a Dociau Falmouth yn uchelgais arall.
- Rheolaeth dros y flwyddyn academaidd, gan gynnwys gallu ei rhannu'n bedwar tymor.
- Y gallu i brisio eiddo ar gyfer treth gyngor.
- Buddsoddiad mewn technoleg werdd. [14]
Pawb Dan Un Faner: Dydd Sant Piran
Mae gorymdaith "All Under One Banner" wedi'i threfnu ar gyfer y 19eg o Fawrth yng Nghernyw i ddathlu Dydd Sant Piran a hybu mwy o ymreolaeth i Gernyw a mwy o drafodaeth ar ei ddyfodol. [15]
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.