From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.
Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
Meysydd Daearyddiaeth Ddynol | Meysydd Cysylltiedig |
---|---|
Daearyddiaeth amgylcheddol | Gwyddor amgylchedd |
Daearyddiaeth boblogaeth | Demograffeg |
Daearyddiaeth drefol | Astudiaethau trefol a Chynllunio |
Daearyddiaeth ddatblygiad | Datblygiad economaidd |
Daearyddiaeth ddiwylliannol | Anthropoleg a Chymdeithaseg |
Daearyddiaeth economaidd | Economeg |
Daearyddiaeth farchnata | Busnes |
Daearyddiaeth iechyd | Gwyddor iechyd |
Daearyddiaeth filwrol | Daearstrategaeth |
Daearyddiaeth ffeministaidd | Ffeministiaeth |
Daearyddiaeth grefyddol | Crefydd |
Daearyddiaeth gymdeithasol | Cymdeithaseg |
Daearyddiaeth hanesyddol | Hanes |
Daearyddiaeth ieithyddol | Ieithyddiaeth |
Daearyddiaeth ranbarthol | Rhanbarthiad |
Daearyddiaeth strategol | Daearstrategaeth |
Daearyddiaeth wleidyddol | Gwyddor gwleidyddiaeth (yn cynnwys Daearwleidyddiaeth) |
Daearyddiaeth ymddygiadol | Seicoleg |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.