Gwyddorau cymdeithas

From Wikipedia, the free encyclopedia

Astudiaethau sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bodau dynol yw'r gwyddorau cymdeithas. Perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion a grwpiau yw canolbwynt y gwyddorau cymdeithas. Yn eu cwmpas mae anthropoleg ddiwylliannol a chymdeithasol, cymdeithaseg, seicoleg gymdeithasol, gwyddor gwleidyddiaeth, ac economeg. Yn aml cynhwysir hefyd daearyddiaeth gymdeithasol ac economaidd, agweddau cymdeithasol addysg, hanes, astudiaethau cymharol o'r gyfraith, a rheolaeth a busnes.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Gwyddorau cymdeithas
Enghraifft o:class used in Universal Decimal Classification, cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth 
Mathsocial sciences and humanities, humanities, arts and social sciences 
Yn cynnwyseconomeg, gwyddor gwleidyddiaeth, anthropoleg, cymdeithaseg, seicoleg, social statistics, newspaper studies, business studies, daearyddiaeth, seicoleg cymdeithasol 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Datblygodd y ddisgyblaeth hon yn sgil dyfodiad y dull gwyddonol yn ystod oes yr Oleuedigaeth. Yn y 19g fe'i rhennir yn anthropoleg, gwyddor gwleidyddiaeth, seicoleg, a chymdeithaseg, a chafodd damcaniaethau eang effaith sylweddol ar y maes. Ymhlith enwau mawr y cyfnod hwn oedd Auguste Comte, Karl Marx a Herbert Spencer. yn yr 20g datblygodd methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth, a chymwyso'r maes at ddefnydd ymarferol.[1]

Ers y 1950au defnyddir y term gwyddorau ymddygiad hefyd am yr un bynciau a gwmpasir gan y gwyddorau cymdeithas. Mae'r term hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y gwyddorau cymdeithas a'r gwyddorau bywyd sy'n ymwneud ag ymddygiad dynol, megis anthropoleg fiolegol a seicoleg ffisiolegol.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.