Mae anghytundeb ynglŷn ag union ffiniau Ewrop, ac yn wir dywed rhai nad yw Ewrop yn gyfandir o gwbl, ond yn orynys anferth sy'n rhan o gyfandir Asia am nad oes ffin naturiol bendant rhyngddynt; cyfeirir at yr uned ddaearyddol honno fel Ewrasia. Y ffin a dderbynnir fel arfer i wahanu'r ddau gyfandir yw mynyddoedd yr Ural sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de trwy ganol Rwsia; nid yw pawb yn cytuno fod ardal y Caucasus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol. Y ffin orllewinnol yw Cefnfor Iwerydd, ac i'r de a'r de-ddwyrain mae'r Môr Canoldir yn ffin i'w wahanu oddi wrth Affrica ac Asia Leiaf.
O gymharu ag Asia nid yw Ewrop yn cael hafau mor boeth na gaeafau mor oer, oherwydd nad oes unman mor bell o'r môr ag yn Asia. Hefyd mae'r prif fynyddoedd yn rhedeg o'r gorllewin tuag at y dwyrain ac felly does dim i atal y gwyntoedd cynnes o'r môr rhag cyrraedd i mewn ymhell i'r tir.
Mae dyfroedd bas gerllaw glannau môr gorllewin Ewrop, ac o ganlyniad mae'n lle da i bysgota ac mae'r diwydiant pysgota yn bwysig i nifer o wledydd Ewrop.
Gwladychwyd Ewrop gyntaf gan bobl yn dod o Asia a Gogledd Affrica, yn ôl pob tebyg. Daeth y Celtiaid, cyndeidiau'r Cymry, yn wreiddiol o orllewin Asia drwy dde-ddwyrain Ewrop.
Mae hinsawdd Ewrop yn dymherus, gyda llawer o dir ffrwythlon. Mae llawer o haearn crai a glo yng ngogledd-orllewin y cyfandir.