Ynysoedd y Sianel

ynysoedd ger Normandi, Ffrainc From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynysoedd y Sianel

Grŵp o ynysoedd ym Môr Udd oddi ar arfordir Normandi, Ffrainc, ond yn diriogaeth ddibynol ar goron y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Sianel (Saesneg: Channel Islands, Ffrangeg: Îles Normandes). Y prif ynysoedd yw Jersey (yr ynys fwyaf), Ynys y Garn (Guernsey), Alderney a Sark. Mae ganddynt tirfas o 194 km².

Lleoliad Ynysoedd y Sianel
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Ynysoedd y Sianel
Mathynysfor 
Jer-Îles d'la Manche.ogg 
Poblogaeth163,857 
Daearyddiaeth
GwladBeilïaeth Jersey, Beilïaeth Ynys y Garn 
Arwynebedd198 km² 
GerllawMôr Udd 
Cyfesurynnau49.43°N 2.35°W 
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$11,736 million 
Cyfartaledd plant1.466 
Cau

Daethant dan reolaeth Coron Lloegr gyda'r Goresgyniad Normanaidd o'r wlad honno yn 1066. Yn yr Ail Ryfel Byd cawsant eu meddiannu gan yr Almaen.

Mae twristiaeth yn bwysig iawn i'r ynysoedd ond mae amaethyddiaeth – yn arbennig tatws Jersey a thomatos – a garddwriaeth yn ddiwydiannau pwysig hefyd. Mae bridiau gwartheg Jersey yn enwog am eu llaeth hufennog.

Siaredir patois arbennig sy'n ffurf ar Ffrangeg Normanaidd ar yr ynys, ond Saesneg yw'r brif iaith.

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.