Ynysoedd Erch

Ynysfor yn y Môr y Gogledd From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynysoedd Erch

Ynysoedd ger arfordir gogledd-ddwyrain yr Alban yw Ynysoedd Erch (Saesneg: Orkney, Gaeleg yr Alban: Arcaibh). Mae'r ynysoedd, tua 200 ohonynt i gyd, tua 16 km oddi ar arfordir Caithness. Gelwir yr ynys fwyaf yn Mainland, ac yma y ceir y brif dref, Kirkwall, gyda phoblogaeth o tua 7,000. Mae trigolion ar tua 20 o'r ynysoedd i gyd, gyda chyfanswm y boblogaeth yn 19,900 yn 2001.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Ynysoedd Erch
Thumb
Mathynysfor, un o gynghorau'r Alban, registration county, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area, siroedd yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig 
PrifddinasKirkwall 
Poblogaeth22,270 
Daearyddiaeth
Gwlad Yr Alban
Arwynebedd988.7994 km² 
GerllawMôr y Gogledd 
Cyfesurynnau59°N 3°W 
Cod SYGS12000023 
GB-ORK 
Thumb
Cau
Thumb
Baner Ynysoedd Erch

Ymsefydlodd y Llychlynwyr yma yn yr 8fed a'r 9g, a chawsant ddylanwad parhaol ar ddiwylliant yr ynysoedd. Hyd y 19g roedd iaith Norn, iaith Lychlynnaidd, yn cael ei siarad yma.

Mae Gŵyl Sant Magnus yn ŵyl gerddorol sy'n digwydd ym mis Mehefin bob blwyddyn.

Thumb
Lleoliad Ynysoedd Erchyn yr Alban

Ynysoedd

Yr ynysoedd pwysicaf yw:

Hynafiaethau

Dynodwyd pedair safle Neolithig ar Ynysoedd Erch yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999, dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig.

Eraill

Enwogion

  • John Rae (1813-1893), fforiwr
  • Edwin Muir (1887–1959), bardd
  • Robert Rendall (1898–1967), bardd
  • George Mackay Brown (1921-1996), bardd

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.