From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth a gynhaliwyd rhwng 1960 a 2004 rhwng timau o Gonffederasiwn UEFA a Chonffederasiwn CONMEBOL[1][2] oedd y Cwpan Rhyng-gyfandirol. Yn amlach na pheidio, pencampwyr Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA a phencampwyr y Copa Libertadores fyddai'n herio ei gilydd. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA) yn seiliedig ar dechnegol amlwg uwchradd yn y blynyddoedd hynny[3][4]
Enghraifft o'r canlynol | club world championship, international association football clubs cup, cystadleuaeth cymdeithas bêl-droed, a ddaeth i ben |
---|---|
Daeth i ben | 2004 |
Dechrau/Sefydlu | 1960 |
Dechreuwyd | 1960 |
Olynydd | Cwpan Clwb y Byd FIFA |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ers 2005, mae Cwpan Clwb y Byd FIFA wedi ei ddisodli fel prif gystadleuaeth clybiau pêl-droed y byd a diddymwyd y Cwpan Rhyng-gyfandirol.[5]
Crewyd y gystadleuaeth ym 1960 yn dilyn syniad gan ysgrifennydd cyffredinol UEFA, Henri Delaunay, oedd am weld gêm rhwng pencampwyr Ewrop a phencampwyr De America. Roedd ei syniad yn sbardun i greu y Copa Libertadores, sef fersiwn De America o Gwpan Pencampwyr Ewrop[6].
Chwaraewyd rowndiau terfynol cynnar y gystadleuaeth dros ddau gymal, gyda trydedd gêm yn cael ei chwarae yn y dyddiau cyn cyflwyno'r rheol goliau oddi cartref. Real Madrid C.F. o Sbaen oedd y pencampwyr cyntaf gan drechu Peñarol o Wrwgwái 5-1 ym Madrid wedi gêm ddi-sgôr yn Montevideo[7]. Ond cafwyd gwrthwynebiad gan FIFA pan gyhoeddodd y Sbaenwyr eu bod bellach yn "bencampwyr byd". Dywedodd y corff llywodraethol mai pencampwyr rhyng-gyfandirol yn unig oedd pencampwyr gêm rhwng dim ond dau gonffederasiwn[8]. Ar 27 Hydref, 2017, cyhoeddodd FIFA fod y tlws hwn yn deitl swyddogol y byd (cyfwerth â Cwpan Clwb y Byd FIFA).[3][4]
Rhwng 1980 a 2004, cynhaliwyd y rownd derfynol yn Siapan ac fe'i noddwyd gan gwmni ceir Toyota.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Clwb | Ffederasiwn | Tlysau | Manylion |
---|---|---|---|
Real Madrid | Sbaen | 3 | 3 (1960, 1998, 2002) |
A.C. Milan | Yr Eidal | 3 | 3 (1969, 1989, 1990) |
Penarol | Wrwgwái | 3 | 3 (1961, 1966, 1982) |
Nacional Montevideo | Wrwgwái | 3 | 3 (1971, 1980, 1988) |
Boca Juniors | Yr Ariannin | 3 | 3 (1977, 2000, 2003) |
São Paulo F.C. | Brasil | 2 | 2 (1992, 1993) |
Inter Milan | Yr Eidal | 2 | 2 (1964, 1965) |
F.C. Bayern München | Almaen | 2 | 2 (1976, 2001) |
Santos | Brasil | 2 | 2 (1962, 1963) |
Independiente | Yr Ariannin | 2 | 2 (1973, 1984) |
Ajax | Yr Iseldiroedd | 2 | 2 (1972, 1995) |
Juventus | Yr Eidal | 2 | 2 (1985, 1996) |
Porto | Portiwgal | 2 | 2 (1987, 2004) |
Manchester United | Lloegr | 1 | 1 (1999) |
Racing Avellaneda | Yr Ariannin | 1 | 1 (1967) |
Estudiantes | Yr Ariannin | 1 | 1 (1968) |
Feyenoord | Yr Iseldiroedd | 1 | 1 (1970) |
Atlético Madrid | Sbaen | 1 | 1 (1974) |
Olimpia | Paragwâi | 1 | 1 (1979) |
Flamengo | Brasil | 1 | 1 (1981) |
Grêmio | Brasil | 1 | 1 (1983) |
River Plate | Yr Ariannin | 1 | 1 (1986) |
Crvena zvezda | Iwgoslafia | 1 | 1 (1991) |
Vélez | Yr Ariannin | 1 | 1 (1994) |
Borussia Dortmund | Almaen | 1 | 1 (1997) |
Mae pum tîm wedi ennill y tlws ar dair achlysur:
Gwlad | Timau | Cwpan | Blynyddoedd |
---|---|---|---|
Primera Division Ariannin | 6 | 9 | 1967, 1968, 1973, 1977, 1984, 1986, 1994, 2000, 2003 |
Serie A | 3 | 7 | 1964, 1965, 1969, 1985, 1989, 1990, 1996 |
Campeonato Brasileiro Série A | 4 | 6 | 1962, 1963, 1981, 1983, 1992, 1993 |
Primera Division Wrwgwái | 2 | 6 | 1961, 1966, 1971, 1980, 1982, 1988 |
La Liga | 2 | 4 | 1960, 1974, 1998, 2002 |
Eredivisie | 2 | 3 | 1970, 1972, 1995 |
Bundesliga | 2 | 3 | 1976, 1997, 2001 |
Primeira Liga | 1 | 2 | 1987, 2004 |
Primera Division Paragwai | 1 | 1 | 1979 |
Prif Gynghrair Iwgoslafia | 1 | 1 | 1991 |
Uwch Gynghrair Lloegr | 1 | 1 | 1999 |
Llwyddodd Carlos Bianchi i godi'r tlws deirgwaith fel hyfforddwr; unwaith gyda Vélez Sársfield ym 1994, a 2 gyda Boca Juniors yn 2000 a 2003.
Mae Luis Cubilla a Juan Mujica, wedi ennill y tlws fel chwaraewr ac fel hyfforddwr:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.