From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o ddinas Madrid yw Club Atlético de Madrid, SAD sy'n chwarae yn La Liga, prif adran pêl-droed Sbaen. Ffurfiwyd y clwb ar 26 Ebrill 1903[1] fel Athletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr o Wlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid o Athletic Bilbao[1].
Enw llawn | Club Atlético de Madrid, S.A.D. | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) |
| |||
Sefydlwyd | 26 Ebrill 1903 | |||
Maes | Estadio Vicente Calderón | |||
Cadeirydd | Enrique Cerezo | |||
Cynghrair | La Liga | |||
2018-19 | 2. | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn Estadio Vicente Calderón sy'n dal 54,960 o dorf, ond yn 2016 mae disgwyl i'r clwb symud i'w cartref newydd yn Estadio La Peineta fydd yn gallu dal torf o 70,000.
Ffurfiwyd y clwb ar 26 Ebrill 1903[1] fel Athletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr o Wlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid o Athletic Bilbao[1]. Lleolwyd maes cyntaf Atlético yn Ronda de Vallecas yn ne y ddinas ond ym 1921, wedi i'r clwb ddod yn annibynnol o Athletic Bilbao, adeiladwyd stadiwm newydd, yr Estadio Metropolitano de Madrid, ar eu cyfer[2]. Defnyddiwyd y Metropolitano tan 1966 pan symudodd y clwb i'r Estadio Vicente Calderón[3].
Ar ôl colli yn rownd derfynol y Copa del Rey ym 1921 a 1926, cafodd y clwb wahoddiad i ymuno â La Liga pan sefydlwyd y gynghrair ym 1928.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.