sant Cristnogol From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant Cristnogol oedd Cristoffer neu Cristoffr[1] (o'r Groeg Χριστόφορος, Christóphoros, "Un a gludodd Crist"). Ef yw nawddsant teithwyr, a dethlir ei ŵyl ar 25 Gorffennaf mewn Eglwysi Gorllewinol ac ar 9 Mai yn Eglwysi Uniongred y Dwyrain.[2]
Cristoffer | |
---|---|
Murlun o Sant Cristoffer yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, yn dyddio'n ôl i'r 15g | |
Ganwyd | 3 g Canaan |
Bu farw | c. 251 o pendoriad Asia Leiaf |
Dydd gŵyl | 25 Gorffennaf, 24 Gorffennaf, 22 Mai |
Does braidd dim yn wybyddys am fywyd y Cristoffer hanesyddol, ond yn ôl traddodiad cafodd ei ferthyru yn Asia Leiaf yn y 3g. Bu nifer o chwedlau amdano, ac ymddangosodd y rhain yn eu ffurf terfynol yn Y Llith Euraid, casgliad Jacobus de Voragine o fucheddau'r seintiau, yn y 13g. Yn ôl y chwedl roedd Cristoffer yn gawr o Ganaan a wasanaethodd y Diafol ar un adeg, ond ar ôl darganfod bod ei feistr yn ofni'r Iesu penderfynodd wasanaethu Mab y Dyn, a oedd yn fwy pwerus, yn ei le. Yna fe ddysgodd am Gristnogaeth oddi wrth feudwy, ag awgrymodd iddo y gallai blesio Crist drwy ddefnyddio ei nerth i gario teithwyr ar ei gefn ar draws afon beryglus. Un tro daeth plentyn i lan yr afon a oedd yn eithriadol o drwm, gan mai Crist oedd y plentyn, a chariai bwysau'r byd ar ei ysgwyddau. Dywedodd wrth Gristoffer i blannu ei wialen yn y ddaear, a blodeuodd hon y bore drannoeth, yn dystiolaeth bod yr hyn a ddywedodd y plentyn yn wir.[3]
Roedd Cristoffer yn sant poblogaidd yn Ewrop yr oesoedd canol, ac mae peintiadau ohono'n gyffredin yn eglwysi'r cyfnod. Gan amlaf mae'r rhain yn wynebu prif ddrws yr eglwys, oherwydd y gred na fyddai unrhyw un a welai ddelwedd o'r sant yn marw y diwrnod hwnnw.[3] Mae'r enghraifft fwyaf o'r fath lun yng Nghymru i'w weld yn Eglwys Sant Saeran yn Llanynys, Sir Ddinbych. Mae enghraifft arall yn Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr a cheir tystiolaeth am furluniau pellach ym Mhriordy Penmon, Môn, Eglwys Sant Cyngar, yr Hob, Sir y Fflint,[4] Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, Morgannwg,[5] ac Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd.
Roedd cwlt Sant Cristoffer yn un o'r ofergoelion a ddirmygwyd adeg y Diwygiad Protestannaidd, ond yn fwy diweddar bu adfywiad yn ei boblogrwydd yn sgil twf trafnidiaeth mewn ceir ac awyrennau. Er gwaethaf hyn, peidiodd cwlt swyddogol y sant yn yr Eglwys Gatholig ym 1969 oherwydd diffyg seiliau cadarn i'r chwedl.[3] Adeiladwyd eglwys Anglicanaidd wedi'i gysegru i Sant Cristoffer yn Bulwark, maesdref o Gas-gwent, yn yr 20g,[6]; nid yw'n ymddangos fod rhagor o eglwysi wedi'u cysegru iddo yng Nghymru.
Fel y dywedwyd 'Cariwr Crist' yw ystyr yr enw. Ceir sawl sillafiad Cymraeg dros y canrifoedd gan gynnwys:
(Moliant gan Guto'r Glyn i Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed pan fu bron â boddi.)[7]
Canodd yr un bardd, Guto'r Glyn, gywydd hefyd gan ddefnyddio sillafiad gwahanol:
Mae'r gynghanedd yn mynnu defnyddio'r sillafiad Cristor yn yr enghraifft gyntaf a Christoffr yn yr ail ac mae'n amlwg felly bod y ddwy ffurf yn cael eu defnyddio yn yr Oesoedd Canol.
Ym myd natur, ceir: llysiau Cristoffyr (neu Cristoffys), sef Pulicaria dysenterica.[8]
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.