eglwys plwyf Gresffordd, Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwys o'r 13g, gyda'i glychau'n un o Saith Rhyfeddod Cymru ydyw Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd. Cyfeiriodd dogfen hynafol, erbyn hyn ar goll, at yr eglwys, gan ddweud bod Trahaearn ap Ithel ap Eunydd a'i bump brawd wedi sefydlu'r eglwys ac wedi rhoi'r tir ar ei gyfer. Ychwanegwyd ystlys, ymestynwyd y gangell ac ychwanegwyd claddgell yn 14g.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gresffordd |
Sir | Gresffordd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 75.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.088°N 2.97724°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | gŵyl (yr) Hollsaint |
Manylion | |
Dymwchwelwyd yr hen eglwys yn 15g, ac adeiladwyd yr eglwys bresennol. Cadwyd rhannau'n unig o'r waliau gorllewinol a dwyreiniol. Adeiladwyd yr eglwys gyda thywodfaen o ardal Cefn. Tu mewn yr eglwys mae corffddelw, Madog ap Llywelyn ap Gruffudd, yn fwy na thebyg. Hefyd, mae cerflun hynafol o Atropos ar hen allor Rhufeinig[1], cerflun o Syr David Hanmer (tad yng nghyfraith i Owain Glyn Dŵr) a llechen ar gof Goronwy ap Iorwerth. Yn ymyl y drws gogleddol, mae cofeb i'r 266 o fechgyn lleol a laddwyd yn nhrychineb Gresffordd[2]
Yn ôl hen rigwm, mae clychau'r eglwys yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.