Coedwig ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Coed y Bont yn goetir cymunedol wedi’i leoli ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid, Ceredigion. Mae’n cynnwys dwy goedwig gyffiniol, Coed Dolgoed a Choed Cnwch.
Math | coedwig, dark-sky preserve |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pontrhydfendigaid |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.277306°N 3.851405°W |
Cod OS | 737 659 |
Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i ymwelwyr yng Nghoed y Bont, gan gynnwys dau lwybr cerdded trwy Goed Dolgoed sy’n wastad.[2]
Bu'r goedwig yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.[3]
Mae Coetir Cymunedol Coed y Bont B4343 o rhyw 6 milltir o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid heb fod yn bell o Abaty Ystrad Fflur.
Roedd coetiroedd Coed y Bont unwaith o fewn tiroedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, un o’r abatai mwyaf ym Mhrydain.
Mae Coed y Bont ar Lwybr Ystrad Fflur ac mae byrddau gwybodaeth am hanes yr abaty yn y maes parcio. Mae adfeilion yr Abaty gerllaw, ac maent ar agor i’r cyhoedd.
Mae peth darnau o larwydd a ffynidwydden Douglas yn parhau i fod ar y safle ers i’r Comisiwn Coedwigaeth eu plannu yn y 1970au. Bydd y coed conwydd yn cael eu gwaredu’n raddol, fel rhan o raglen i adfer coetir hynafol.
Sefydlwyd Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont yn helpu i ofalu am y coetiroedd, mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, o fewn termau’r cytundeb rheoli.[2]
Mae dau lwybr coed wedi’u creu’n bwrpasol yng nghoetir is a gwastad Coed Dolgoed.
Mae Coed y Bont wedi’i leoli ym Mynyddoedd Elenydd, lle mae’r awyr dros nos ymhlith y rhai mwyaf tywyll yn Ewrop.
Coed y Bont yw un o’r lleoedd gorau yn lleol i weld y sêr ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Darganfod Awyr Dywyll.
Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll: i ffwrdd o’r gwaethaf o unrhyw lygredd golau lleol; yn fannau lle gellir gweld yr awyr yn glir; yn hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys daear gadarn i gadeiriau olwyn, ac yn gyffredinol gellir mynd atynt drwy’r amser.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.