From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd uchelwyr a thywysogion Cymru wedi dechrau codi cestyll cyn i'r Normaniaid ddod i Gymru. Roedd y cestyll cynnar yn eithaf syml ond o'r 11g ymlaen, dan bwys yr ymosodiadau Normanaidd, dechreuodd y tywysogion godi cestyll mwy sylweddol a chwaraeai ran bwysig ym mywyd Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.
Math | grwp o adeiladau neu strwythurau diwydiannol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cafodd y rhan fwyaf o'r cestyll hyn eu codi gan Dywysogion Gwynedd. Mae'r rhestr yn cynnwys ambell gastell o darddiad Normanaidd a feddianwyd ac a addaswyd gan y tywysogion. Nid yw'n cynnwys cestyll yn y canolbarth a'r de a feddiannid o bryd i'w gilydd gan Llywelyn Fawr neu Llywelyn ap Gruffudd.
Mae lleoliad, a bodolaeth, castell Llywelyn ap Gruffudd yn Abergwyngregin yn destun dadlau.
Yn ogystal ceir sawl castell nad oes sicrwydd am ei leoliad heddiw, e.e. y castell a godwyd gan Owain Gwynedd yng Nghorwen yn 1165 a Plas Crug, sef, efallai, y castell a godwyd gan Llywelyn Fawr yn Aberystwyth yn 1208.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.