sir yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Sir yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America yw Cambria County. Cafodd ei henwi ar ôl Cambria. Sefydlwyd Cambria County, Pennsylvania ym 1807 a sedd weinyddol y sir (a elwir weithiau'n 'dref sirol' neu'n 'brifddinas y sir') yw Ebensburg.
Math | sir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cambria |
Prifddinas | Ebensburg |
Poblogaeth | 133,472 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1,796 km² |
Talaith | Pennsylvania |
Yn ffinio gyda | Clearfield County, Bedford County, Blair County, Somerset County, Westmoreland County, Indiana County |
Cyfesurynnau | 40.49°N 78.72°W |
Mae ganddi arwynebedd o 1,796 cilometr sgwâr. Allan o'r arwynebedd hwn, y canran o ffurfiau dyfrol, megis llynnoedd ac afonydd, yw 0.8% . Yn ôl cyfrifiad y wlad, poblogaeth y sir yw: 133,472 (1 Ebrill 2020)[1][2]. Mewn cymhariaeth, yn 2016 roedd poblogaeth Caerdydd yn 361,462 a Rhyl tua 26,000.[3]
Mae'n ffinio gyda Clearfield County, Bedford County, Blair County, Somerset County, Westmoreland County, Indiana County. Cedwir rhestr swyddogol o henebion ac adeiladau cofrestredig y sir yn: National Register of Historic Places listings in Cambria County, Pennsylvania.
[[File:Map of Pennsylvania highlighting Cambria County.svg|frameless]] | |
Map o leoliad y sir o fewn Pennsylvania | Lleoliad Pennsylvania o fewn UDA |
Yn 1794 ymfudodd gweinidog o'r enw Morgan John Rhys i America wedi cael ei siomi gan yr ymateb i radicaliaeth Lloegr. Fe'i ganed yn Llanbradach, Caerffili. Roedd yn bropagandydd enwog dros ryddid pobl, gan groesawu'r Chwyldro Ffrengig, ac phregethodd yn gryf yn erbyn caethwasiaeth. Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu gwladfa Gymreig yng ngorllewin Pennsylvania. Rhoddodd yr enw 'Cambria' ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, The Western Sky. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r brodorion Americanaidd.
Credai y dylid creu sir newydd ym Mhennsylvania o'r enw Cambria, ac mai ei dref ef, Beula, a ddylai fod yn ganolfan weinyddol i'r sir. Pan grewyd Sir Cambria gan lywodraeth talaith Pennsylvania yn 1804, collodd Beula y bleidlais i ddod yn brif ganolfan weinyddol o un pleidlais, yn lle hynny, daeth tref gyfagos Ebensburg - a oedd yn wreiddiol yn rhan o Beula - yr anrhydedd honno. Bu farw Rhys bythefnos ar ôl i'r rheithfarn gael ei rhyddhau.[4]
Mae gan y sir yma boblogaeth o tua 133,472 (1 Ebrill 2020)[1][2]. Dyma rai o'r dinasoedd, trefi neu gymunedau mwyaf poblog y sir:
Rhestr Wicidata:
Tref neu gymuned | Poblogaeth | Arwynebedd |
---|---|---|
Johnstown | 18411[5] | 6.09 15.774569 |
Richland Township | 12233[5] | 20.62 |
Cambria Township | 5814[5] | 50.2 |
Adams Township | 5752[5] | 46.2 |
Upper Yoder Township | 5147[5] | 12.23 |
Westmont | 4982[5] | 2.35 6.080262 |
Jackson Township | 4236[5] | 48 |
Northern Cambria | 3560[5] | 2.98 7.728824 |
Portage Township | 3432[5] | 24.87 |
Ebensburg | 3404[5] | 1.69 4.374291 |
Elim | 3364[5] | 5.245671[6] 5.244605 |
Cresson Township | 2839[5] | 12.05 |
Allegheny Township | 2815[5] | 29.42 |
Belmont | 2771[5] | 4.596027[6] 4.596019 |
Stonycreek Township | 2771[5] | 3.58 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.