From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae adeilad rhestredig yn adeilad yng ngwledydd Prydain neu ogledd Iwerddon sydd ar gofrestr statudol o adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig neu hanesyddol. Ceir tua hanner miliwn o adeiladau wedi'u rhoi ar restrau sawl corff: Cadw yng Nghymru, Historic Scotland, English Heritage a NIEA (Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon).
Enghraifft o: | cofrestr diwylliannol |
---|---|
Math | safle treftadaeth yn y Deyrnas Unedig, adeilad |
Yn cynnwys | adeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, adeilad rhestredig Gradd II, Grade A listed building, Grade B listed building, Grade B+ listed building, Grade B1 listed building, Grade B2 listed building |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y term hefyd yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda National Inventory of Architectural Heritage yn gyfrifol am y cofrestru. Y term swyddogol yno yw "strwythur wedi'i warchod".[1]
Ni chaniateir dymchwel adeilad cofrestredig, na'i ehangu neu ei addasu heb ganiatâd arbennig gan yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn ei dro'n ymgynghori gydag asiantaeth y llywodraeth ganolog perthnasol (ee Cyfoeth Naturiol Cymru neu Cadw), yn enwedig gydag adeiladau o nod (Gradd 1 neu 1*). Gellir gwneud eithriad o adeiladau crefyddol lle'i defnyddir heddiw i addoli, ond dim ond yn yr achosion hynny ble ceir gweithdrefnau caniatâd wedi'u cymeradwyo.
Ar adegau gorfodir perchnogion i gynnal a chadw'r adeilad neu ei drwsio, a gallant gael eu herlyn os na wnânt hynny, neu pe baent yn newid yr adeilad mewn unrhyw fodd, heb y caniatâd priodol. Mae'r gyfraith yn caniatau tynnu adeilad o'r rhestr os profir ei fod yno drwy gangymeriad.[2]
Ceir tri math o gategoriau neu ddosbarth o adeiladau yng Nghymru a Lloegr:[3]
Arferid cael dosbarth anstatudol sef Gradd III, a ddaeth i ben ym 1970.[5] Rhennid adeiladau crefyddol Eglwys Loegr i Raddau A, B ac C cyn 1977 ac mae llond dwrn ohonyn nhw'n parhau gyda'r hen drefn.
Yn Lloegr, mae tua 2% o holl adeiladau'r wlad wedi eu cofrestru.[6] Ym Mawrth 2010, roedd oddeutu 374,000 ar y gofrestr[7]: tua 92% wyn Radd II, 5.5% yn Radd II*, a 2.5% yn Radd I.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.