From Wikipedia, the free encyclopedia
Arolwg yn 2003 gan y BBC i geisio darganfod y llyfr mwyaf poblogaidd ym Mhrydain trwy bleidlais we, teleffon a neges destun oedd y Big Read. Pleidleisiodd tua 140,000 o bobl cyn cyhoeddi'r 200 uchaf mewn rhaglen ar BBC1. Er hynny, roedd pobl yn gallu pleidleisio am fisoedd ar ôl dangos y rhaglen ar gyfer y deg gorau.
Enghraifft o'r canlynol | gwobr, list of best books |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Gwefan | http://www.bbc.co.uk/arts/bigread/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ôl llwyddiant y fersiwn BBC ym Mhrydain, ceisiwyd creu fersiwn ar gyfer yr Almaen dan yr enw Das große Lesen yn 2004, sef y cyfieithiad llythrenol. Yn wahanol i fersiwn y BBC, cafodd 200 o lyfrau eu ddewis ar gyfer pleidleisio cyn dechrau'r arolwg. Cymerodd dros 250,000 o bobl rhan yn Das große Lesen.
Daeth y Big Read i Hwngari o dan yr enw A Nagy Könyv (yn lytherennol, Y Llyfr Mawr) yn 2005. Ar ôl rownd o bleidleisio yn gynnar yn y flwyddyn, lle cymerodd 1400 o lyfrgellau, 500 o siopau llyfrau a 1300 o ysgolion rhan, dewisiwyd y 50 llyfr o Hwngari a 50 llyfr o dramor mwyaf poblogaidd. Yna, dewiswyd y 12 nofel orau, a creuwyd ffilmiau byr gan edmygwyr y nofelau i geisio annog pobl i bledleisio am eu llyfr nhw fel llyfr gorau Hwngari. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd y 100 llyfr mwyaf poblogaidd. Mae'n diddorol i nodi taw fersiwn Hwngari o'r Big Read oedd fwyaf poblogaidd yn nhermau canran y boblogaeth a bleidleisiodd.
(Y Tywysog Bychan)--> gan Antoine de Saint-Exupéry
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.