Remove ads
llenor a bardd Seisnig (1865-1936) From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur a bardd yn yr iaith Saesneg a anwyd ym Mumbai (Bombay) India oedd Joseph Rudyard Kipling (30 Rhagfyr 1865 – 18 Ionawr 1936). Roedd yn awdur cynhyrchiol ac mae nifer o'i straeon a nofelau'n lleoledig yn India. Mae'n enwocaf am ei lyfrau straeon i blant The Jungle Book (1894) a Just So Stories (1902). Cyhoedd hefyd y straeon byrion yn Plain Tales from the Hills (1888), y nofel Kim (1901), a'r cerddi "Gunga Din" ac "If—" yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892).
Rudyard Kipling | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Rudyard Kipling 30 Rhagfyr 1865 Mumbai |
Bu farw | 18 Ionawr 1936 o briw Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, gohebydd rhyfel, awdur plant, hunangofiannydd, sgriptiwr, newyddiadurwr, awdur ffuglen wyddonol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Jungle Book, Kim, If—, The Second Jungle Book, Just So Stories, Gunga Din |
Prif ddylanwad | Robert Louis Stevenson |
Tad | John Lockwood Kipling |
Mam | Alice Macdonald Kipling |
Priod | Caroline Starr Balestier |
Plant | John Kipling, Elsie Bambridge, Josephine Kipling |
Perthnasau | Catherine Pullein |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Lektorix, doctor honoris causa from the University of Paris, Ehrendoktor der Universität Straßburg |
llofnod | |
Am beth amser ar ôl ei farwolaeth, roedd yn amhoblogaidd mewn cylchoedd llenyddol oherwydd ei fod yn ymddangos ei fod yn amddiffyn "Imperialaeth Orllewinol" a'r Ymerodraeth Brydeinig yn neilltuol. Roedd yn fwyaf poblogaidd yn yr 1900au ac fe'i wobrwyd â Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 1907 y person ieungcaf i ennlil y wobr ydyw.
Fe gynigwyd y teitlau "Syr" a "Llenor-fardd Prydeinig" iddo, ond fe wrthododd.
Hanna Jones oedd ei Nain, merch o Ddinbych a aned yn 1809. Pan oedd yn ferch ifanc, aeth i Fanceinion lle priododd y Parch George Brown Macdonald, gweinidog gyda'r Wesleiaid. Cawsant saith o ferched a phedwar bachgen. Un o'r merched oedd Georgina a briododd Edward Burne-Jones, yr arlunydd a chyfaill i William Morris. Dwy arall o ferched Hanna a George oedd Louisa a briododd berchennog gwaith haearn, ac aelod seneddol, sef Alfred Baldwin, ac Alice a briododd John Lockwood Kipling. Ar lan Llyn Rudyard, yn Swydd Stafford y cyfarfu Alice a John a phan gawsant fab, galwyd efo yn Rudyard Kipling.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.