From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur o'r Almaen oedd Erich Maria Remarque [1] (22 Mehefin 1898 – 25 Medi 1970), yn fwyaf enwog am ei nofel All Quiet on the Western Front. Fe'i bedyddiwyd yn Erich Paul Remark ond newidiodd ei enw canol Paul pan gyhoeddwyd All Quiet on the Western Front er cof am ei fam. Newidiodd yr enw teulu i Remarque am ei fod am ddatgysylltu ei hun o nofel a gyhoeddodd yn 1920 sef Die Traumbude.[2]
Erich Maria Remarque | |
---|---|
Ganwyd | Erich Paul Remark 22 Mehefin 1898 Osnabrück |
Bu farw | 25 Medi 1970 Locarno |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, dramodydd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | All Quiet on the Western Front, Shadows in Paradise, The Road Back, Spark of Life, The Dream Room |
Priod | Paulette Goddard, Ilse Jutta Zambona, Ilse Jutta Zambona |
Partner | Marlene Dietrich |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Y Groes Haearn, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Q1714472 |
llofnod | |
Fe anwyd Erich ar yr 22 o Fehefin 1898 i deulu dosbarth gweithiol yn ninas Osnabruck; ei dad Peter Franz Remark (g. 14 Mehefin 1867 yn Kaiserswerth) ac Anna Maria (née Stallknecht a anwyd ar 21 Tachwedd 1871 yn Katernberg).
Oherwydd gorfodaeth filwrol ymunodd Remarque â'r fyddin yn ddeunaw oed. Ar 12 Mehefin 1917 trosglwyddwyd ef i Ffrynt y Gorllewin. Ar 31 Gorffennaf fe'i clwyfwyd gan shrapnel yn ei goes dde, ei fraich dde a'i wddf, ac fe'i hanfodwyd adref i'r Almaen am weddill cyfnod y rhyfel.[3]
Yn dilyn y rhyfel gwnaeth e barhau gyda'i hyfforddiant i fod yn athro. Bu yn athro ysgol gynradd yn Lohne, yn Klein Berßen, ac yn Nahne, i gyd yn 1919 ac 1920. Wedyn cafodd amrywiol swyddi - yn lyfrgellydd, yn ddyn busness, yn athro, gohebydd a golygydd. Y tro cyntaf iddo gael ei dalu am ysgrifennu, oedd fel gohebydd technegol i'r Continental Rubber Company, cwmni cynhyrchu teiars yn yr Almaen.[4]
Priododd yr actores Americanaidd Paulette Goddard (cyn-wraig Charlie Chaplin) ym 1958.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.