Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Conwy, mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Betws-yn-Rhos[1][2] (hefyd Betws yn Rhos). Fe'i lleolir yng nghantref Rhos.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,052, 987 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,874.42 ha |
Cyfesurynnau | 53.247°N 3.639°W |
Cod SYG | W04000107 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Daearyddiaeth
Fe'i lleolir yng nghefn gwlad Rhos tua 5 milltir i'r de o drefi arfordirol Abergele a Bae Colwyn. Rhed y ffordd B5821 trwy'r pentref, gan ei gysylltu â Llanelwy i'r dwyrain a Llansantffraid Glan Conwy i'r gorllewin. Mae gan y gymuned boblogaeth o 1923 (Cyfrifiad 2001).
Gorwedd mewn ardal o fryniau isel rhwng afon Dulas ac afon Elwy.
Hynafiaethau
Dwy filltir i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer hynafol Pen y Corddyn.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Betws-yn-Rhos (pob oed) (1,052) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws-yn-Rhos) (473) | 46.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws-yn-Rhos) (676) | 64.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws-yn-Rhos) (137) | 31.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Pobl o Fetws-yn-Rhos
- Thomas Gwynn Jones. Ganed y llenor ac ysgolhaig yn Y Gwyndy Uchaf ym mhlwyf Betws yn Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llaneilian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennof gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).
Oriel
- Eglwys Mhihangel Sant
- Yr eglwys a'r pentref y tu hwnt
- Tua'r cefn
- Eglwys Mhihangel Sant, tua'r allor
- Carreg fedd ym mynwent yr eglwys
- Plas Coed Coch tua 1885
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.