offeiriad a chwaraewr rygbi undeb From Wikipedia, the free encyclopedia
Offeiriad Anglicanaidd o Gymru oedd Y Gwir Barchedig Alfred Augustus Mathews BA BD (7 Chwefror 1864 - 12 Awst 1946)[1], oedd yn nodedig fel chwaraewr rygbi'r undeb yn ei ieuenctid. Roedd yn cynrychioli Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan ar lefel clwb a chwaraeodd un gêm ryngwladol dros Gymru.
Alfred Mathews | |
---|---|
Ganwyd | 7 Chwefror 1864 Rhymni |
Bu farw | 12 Awst 1946 Malpas |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, gweinidog yr Efengyl |
Tad | Jenkin Mathews |
Mam | Elizabeth Hughes |
Priod | Ethel Frances Evans |
Plant | Barbara Brooke, Barwnes Brooke o Ystradfellte, Averil Charlotte Mathews, Evelyn Mary Mathews, Isobel Frances Mathews, Kenneth Mathews |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe |
Ganwyd Mathews yn y Rhymni, Sir Fynwy yn blentyn i Jenkin Mathews, cyfrifydd i gwmni haearn, ac Elizabeth Matilda (Hughes gynt) ei wraig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri cyn mynd ymlaen i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth Anglicanaidd. Graddiodd o goleg Llambed gyda BA ym 1887 a BD ym 1888.
Ym 1898, priododd Ethel Frances Evans, merch y Dr Edward Beynon Evans, Abertawe.[2] Bu iddynt fab a phum merch. Eu merch ieuengaf, Barbara Muriel, oedd Barbara Brooke, Barwnes Brooke o Ystradfellte.[3] Daeth Arthur Kenneth, eu mab, hefyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr.
Cafodd Mathews ei ordeinio yn giwrad gan Y Gwir Barchedig William Basil Jones, Esgob Tyddewi, mewn oedfa ordeinio gyffredinol a gynhaliwyd yn Eglwys y Plwyf, Abergwili, ddydd Sul, 6 Mawrth 1887. Wedi ei ordeinio fe'i penodwyd yn giwrad ar Eglwys y Drindod Sanctaidd, Abertawe.[4] Ordeiniwyd Mathews i'r offeiriadaeth gyflawn ym 1888. Pan roddodd y Parch. J. G. Gauntlett, Ficer Eglwys y Drindod Sanctaidd, y gorau i'w ficeriaeth ym 1893, mynegodd y gynulleidfa wrth yr Esgob eu hawydd cryf y dylid penodi ei gurad gweithgar a phoblogaidd i'w olynu. Cytunodd yr Esgob a chafodd Mathews ei ddyrchafu yn Ficer y plwyf.[5] Ar ôl pedair blynedd fel ficer y Drindod Sanctaidd, symudodd Mathews i wasanaethu fel ficer Eglwys San Pedr, Blaenafon, lle arhosodd hyd 1904. Ym 1904, cafodd ei benodi'n Ficer Eglwys San Paul, Casnewydd lle arhosodd hyd 1933 ond iddo gael ei ddyrchafu o'r ficeriaeth i fod yn Ganon Mynwy a Deon Gwledig Casnewydd ym 1930.[6] Ym 1933 derbyniodd blwyfoliaeth Caerwent lle arhosodd hyd ei farwolaeth.[7]
Dechreuodd Mathews chwarae rygbi yn ifanc, gan ymgymryd â'r gamp fel bachgen ysgol yng Ngholeg Llanymddyfri.[8] Parhaodd i chwarae pan aeth i Goleg Dewi Sant, gan chwarae yn gyntaf i dîm y coleg ac yna i dîm tref Llambed.
Dim ond un gêm chwaraeodd Mathews i Gymru, pan wynebodd Cymru'r Alban yn yr ail gêm a'r olaf ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad ym 1886. Cafodd y gêm ei chwarae ar Barc yr Arfau, Caerdydd, a bu Mathews yn chwarae yn safle'r hanerwr, gan gymryd lle'r capten Charlie Newman, a chael ei bartneru â William Stadden o Gaerdydd. Roedd y gêm yn ornest bwysig yn hanes rygbi, gan mai hon oedd y gêm ryngwladol gyntaf i weld y defnydd o'r system pedwar trichwarterwr, a gyflwynwyd gan Frank Hancock. Aeth y gêm ddim yn dda i Gymru a rhoddwyd y gorau i’r system ar ganol y gêm, a achosodd ddryswch pellach, gan arwain at fuddugoliaeth i’r Alban. Ail-ddewiswyd Newman i'w swydd ar gyfer y tymor olynol, ac ni chynrychiolodd Mathews Gymru mewn rygbi eto.
Er gwaethaf diwedd ar ei yrfa ryngwladol, ymunodd Mathews yn ddiweddarach â Chlwb Rygbi haen uchaf Abertawe, ac roedd yn rhan o'r tîm a wynebodd Seland Newydd ar eu taith ym 1888.[9]
Cymru [10]
yr Alban 1886
Bu Mathews farw ym Malpas, Casnewydd yn 82 mlwydd oed; claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Santes Fair, Llanwern.[11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.