Alfred Austin

From Wikipedia, the free encyclopedia

Alfred Austin

Bardd o Loegr yn yr iaith Saesneg oedd Alfred Austin (30 Mai 18352 Mehefin 1913).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Alfred Austin
Thumb
Ganwyd30 Mai 1835 
Leeds 
Bu farw2 Mehefin 1913 
Ashford 
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon 
Alma mater
Galwedigaethbardd, nofelydd, llenor, newyddiadurwr, bargyfreithiwr 
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 
Cau

Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1896, yn dilyn marwolaeth Alfred, Arglwydd Tennyson. Fe'i dilynwyd gan Robert Bridges ar ôl ei farwolaeth ei hun. Pan fu farw Tennyson ym 1892 teimlwyd nad oedd yr un o’r beirdd byw ar y pryd, ac eithrio Algernon Charles Swinburne neu William Morris, o fri digonol i lwyddo i’r swydd, ac roedd y ddau fardd olaf yn anaddas ar seiliau eraill, felly am sawl blwyddyn na enwebwyd Bardd Llawryfog newydd. Yn y pen draw, penodwyd Austin i'r swydd ar ôl i Morris ei gwrthod. Honnwyd iddo gael y swydd oherwydd ei ogwydd gwleidyddol a'i gyfeillgarwch â Phrif Weinidog Arglwydd Salisbury.[1] Fel bardd ni enillodd Austin erioed safle uchel ym marn ei gyfoedion, ac nid oes fawr o gof i'w gerddi heddiw.

Roedd Austin weithiau'n cael ei wawdio am ei benillion gwladgarol confensiynol, fel:

Now upon English soil I soon shall stand,
Homeward from climes that fancy deems more fair;

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.