ysgrifennwr, bardd (1844-1930) From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd o Loegr oedd Robert Seymour Bridges (23 Hydref 1844 – 21 Ebrill 1930).
Robert Bridges | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1844 Caint |
Bu farw | 21 Ebrill 1930 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
Tad | John Thomas Bridges |
Mam | Harriett Elizabeth Affleck |
Priod | Monica Bridges |
Plant | Elizabeth Daryush, Margaret Bridges, Edward Bridges |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Walmer, Caint. Addysgwyd yng Ngholeg Eton a Choleg Corpus Christi, Rhydychen. Aeth ymlaen i astudio meddygaeth yn Ysbyty Sant Bartholomeus, Llundain, gan fwriadu ymarfer nes iddo gyrraedd deugain oed ac yna ymddeol er mwyn llunio barddoniaeth. Roedd yn feddyg nes iddo gael ei orfodi i ymddeol ym 1882 gan glefyd yr ysgyfaint. Wedyn fe wnaeth ymroi ei hun i fywyd llenyddol.
Yn 1884 priododd Mary Monica Waterhouse, merch i'r pensaer Alfred Waterhouse, a threuliodd weddill ei oes yng nghefn gwlad Berkshire, yn gyntaf yn Yattendon, wedyn yn Boars Hill (yn agos i Rydychen), lle bu farw.
Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1913, yn dilyn marwolaeth Alfred Austin. Fe'i dilynwyd gan John Masefield ar ôl ei farwolaeth ei hun. Er gwaethaf ei fod yn Fardd Llawryfog, ni fu Bridges erioed yn fardd adnabyddus iawn nes iddo gyflawni peth poblogrwydd ychydig cyn ei farwolaeth gyda The Testament of Beauty (1929).
Tra'n fyfyriwr yn Rhydychen, daeth yn gyfaill i'r bardd Gerard Manley Hopkins (1844–1889). Gellir priodoli enwogrwydd Hopkins i raddau helaeth i ymdrechion Bridges i drefnu cyhoeddi argraffiad cyflawn ei farddoniaeth (1918).
Roedd yn dad i'r bardd Elizabeth Daryush (1887–1977).
Rhagflaenydd: Alfred Austin |
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 25 Gorffennaf 1913 – 21 Ebrill 1930 |
Olynydd: John Masefield |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.