cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Willington Wrddymbre (Saesneg: Willington Worthenbury). Mae'n cynnwys pentrefi Wrddymbre a Thalwrn Green, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 730.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 827 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,144.37 ha |
Yn ffinio gyda | Malpas, Swydd Gaer |
Cyfesurynnau | 53.0006°N 2.8453°W |
Cod SYG | W04000245 |
Cod OS | SJ420461 |
Cod post | LL13 |
Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffîn a Lloegr. Yma mae'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg yn sir Wrecsam, gyda 88.81% heb wybodaeth o'r iaith yn 2001.
Cysegrwyd eglwys Wrddymbre i Sant Deiniol; mae'n adeilad cymharol ddiweddar, yn dyddio o 1939. I'r de o'r pentref, roedd Plas Emral, catref teulu dylanwadol Puleston, a ddymchwelwyd yn 1936. Bu'r bardd R. S. Thomas yn giwrad yn Nhalwrn Green yn y 1940au.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Willington Wrddymbre (pob oed) (827) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Willington Wrddymbre) (47) | 5.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Willington Wrddymbre) (277) | 33.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Willington Wrddymbre) (70) | 21.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.