sgriptiwr ffilm a aned yn Kryvyi Rih yn 1978 From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwladweinydd o Wcráin yw Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy[1][2] (Wcreineg: Володимир Олександрович Зеленський, [woloˈdɪmɪr olekˈsɑndrowɪdʒ zeˈlɛnʲsʲkɪj]; trawslythrennu: Folodymir Selensci; ganwyd 25 Ionawr 1978).[3] Roedd e'n actor a digrifwr cyn dod yn arlywydd yr Wcráin yn 2019. Enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang fel arweinydd yr Wcráin yn ystod y rhyfel yn ystod goresgyniad Rwsia ar y wlad.[4][3]
Volodymyr Zelenskyy | |
---|---|
Ffugenw | Зелёный |
Llais | Volodymyr Zelenskyy voice.ogg |
Ganwyd | 25 Ionawr 1978 Kryvyi Rih |
Man preswyl | Mariinskyi Palace, Erdenet, Kryvyi Rih |
Dinasyddiaeth | Wcráin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, digrifwr, cyflwynydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, diddanwr, canwr, digrifwr, gwneuthurwr ffilm, dyn sioe, KVN actor, person milwrol, dynwaredwr |
Swydd | Arlywydd Wcráin, Supreme Commander of the Armed Forces of Ukraine |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Servant of the People |
Arddull | parodi, comedi, digrifwch, dychan gwleidyddol |
Prif ddylanwad | Alexander Maslyakov |
Taldra | 167 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Gwas y Bobl |
Tad | Oleksandr Zelenskyy |
Mam | Rimma Zelenska |
Priod | Olena Zelenska |
Plant | Kyrylo Zelenskyi, Oleksandra Zelenska |
Gwobr/au | Diploma Anrhydeddus Gweinidogion Cabined Wcráin, Teletriumph, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Grand cross of the Order of the White Lion, Grand Cross with collar of the Order of Vytautas the Great, State Award of Alexander Dubček, Tallin Medal, Financial Times Person of the Year, Time Person of the Year, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of Viesturs, Order of Vytautas the Great, Urdd y Llew Gwyn, Philadelphia Liberty Medal, Boris Nemtsov Prize, Gwobr Sakharov, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr Siarlymaen, Gwobr Proffil Dewrder, Global Citizen Awards, Order of Liberty, weapon of honor, Order of the White Double Cross |
Gwefan | https://www.president.gov.ua |
llofnod | |
Cafodd Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy ei eni yn Kryvyi Rih, i rieni Iddewig.[5][6][7] Mae ei dad, Oleksandr Zelenskyy, yn athro ac yn bennaeth yr Adran Seiberneteg a Chaledwedd Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Economeg a Thechnoleg Talaith Kryvyi Rih; roedd ei fam, Rymma Zelenska, yn arfer gweithio fel peiriannydd. Enillodd radd yn y gyfraith gan Sefydliad Economeg Kryvyi Rih, oedd yn adran o Brifysgol Economaidd Genedlaethol Kyiv ar y pryd, ac sydd bellach yn rhan o Brifysgol Genedlaethol Kryvyi Rih.[6] Rwsieg yw ei iaith gyntaf, ond mae hefyd yn siarad Wcreineg.
Priododd Zelenskyy Olena Kiyashko ym mis Medi 2003.[6] Ganed merch gyntaf y cwpl, Oleksandra, ym mis Gorffennaf 2004.[6] Ganed eu mab, Kyrylo, ym mis Ionawr 2013.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.