From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Almaen yw Ursula Gertrud von der Leyen ( ynganiad g. Albrecht, 8 Hydref 1958), ac ymgeisydd ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[1] Cyn hynny, gwasanaethodd fel Gweinidog Amddiffyn yr Almaen rhwng 2013 a 2019; mae'n aelod o blaid "yr Undeb Cristnogol Democrataidd" (CDU) canol-dde, hi yw'r fenyw gyntaf yn hanes yr Almaen i ddal y swydd Gweinidog Amddiffyn.
Ursula von der Leyen | |
---|---|
Ffugenw | Rose Ladson |
Llais | Ursula von der Leyen voice.ogg |
Ganwyd | Ursula Gertrud Albrecht 8 Hydref 1958 Ixelles |
Man preswyl | Beinhorn, Berlaymont building |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | Meddyg Meddygaeth, public health professional degree |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, gwleidydd, marchogol |
Swydd | Federal Minister of Defence, Federal Minister of Family Affairs, Senior Citizens, Women and Youth, Federal Minister of Labour and Social Affairs, Aelod o Bundestag yr Almaen, Member of the Landtag of Lower Saxony, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen |
Cyflogwr | |
Taldra | 161 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Christian Democratic Union |
Tad | Ernst Albrecht |
Mam | Adele Albrecht |
Priod | Heiko von der Leyen |
Plant | David von der Leyen, Sophie von der Leyen, Maria Donata von der Leyen, Victoria von der Leyen, Johanna von der Leyen, Egmont von der Leyen, Gracia von der Leyen |
Perthnasau | George Alexander Albrecht |
Llinach | von der Leyen |
Gwobr/au | language adulterator award, BigBrotherAwards, BigBrotherAwards, Knight Grand Cross of the Order for Merits to Lithuania, language adulterator award, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Gwobr 100 Merch y BBC, Gwobr Time 100, Urdd Teilyngdod i Lithuania, National Order of Mali, Order of Saint Panteleimon, Q126416228 |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Cafodd ei geni a'i magu ym Mrwsel, lle'r oedd ei thad Ernst Albrecht yn un o'r gweision sifil Ewropeaidd cyntaf wedi ei benodiad yn 1958. Magwyd Ursula yn ddwyieithog mewn Almaeneg a Ffrangeg; mae hi o dras Almaeneg ac Americanaidd. Symudodd i Hanover yn 1971, pan drodd ei thad at wleidyddiaeth; daeth yn Brif Weinidog talaith Niedersachsen yn 1976.
Bu Ursula yn byw dan yr enw "Rose Ladson" fel myfyriwr economeg yn Llundain ar ddiwedd y 1970au. Ar ôl graddio fel meddyg o Ysgol Feddygol Hanover yn 1987, bu'n arbenigo mewn iechyd menywod. Fel mam i saith o blant, roedd yn wraig tŷ yn ystod rhannau o'r 1990au ac yn byw am bedair blynedd yn Stanford, Califfornia (UDA), gan ddychwelyd i'r Almaen yn 1996.
Ar ddiwedd y 1990au daeth yn rhan o wleidyddiaeth leol rhanbarth Hanover a bu'n weinidog cabinet yn llywodraeth Niedersachsen, lle bu ei thad, o 2003 i 2005. Yn 2005 ymunodd â'r cabinet ffederal, yn gyntaf fel Gweinidog Materion Teulu ac Ieuenctid o 2005 i 2009, yna'n Weinidog dros Lafur a Materion Cymdeithasol o 2009 i 2013, cyn olynu Thomas de Maizière yn Weinidog Amddiffyn yn 2013. Hyd ar Gorffennaf 2019, hi oedd yr unig weinidog sydd wedi gwasanaethu yn ddi-dorr yng nghabinet Angela Merkel ers iddi ddechrau gweithio. Yn flaenorol, fe'i hystyriwyd yn brif gystadleuydd i olynu Merkel fel Canghellor ac fel y ffefryn i ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.
Ar 2 Gorffennaf 2019, cynigiwyd Ursula von der Leyen gan y Cyngor Ewropeaidd fel eu hymgeisydd ar gyfer swydd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Os caiff ei ethol gan Senedd Ewrop, hi fydd y fenyw gyntaf i ddal y swydd, a'r Almaenwr cyntaf ers Walter Hallstein.[2][3][4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.