![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/18/Trefeglwys_Church_-_geograph.org.uk_-_1912625.jpg/640px-Trefeglwys_Church_-_geograph.org.uk_-_1912625.jpg&w=640&q=50)
Trefeglwys
pentref ym Mhowys / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Trefeglwys.[1][2] Saif yn ardal Maldwyn ar lan ogleddol afon Trannon, un o ledneintiau afon Hafren, yn y bryniau tua 4 milltir i'r gogledd o Lanidloes, 9 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd, ar y ffordd rhwng Llanidloes a Chaersŵs.
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 910 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8,177.33 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.5°N 3.5°W ![]() |
Cod SYG | W04000348 ![]() |
Cod OS | SN971902 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au | Craig Williams (Ceidwadwr) |
![]() | |
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd Trefeglwys, yng nghwmwd Arwystli Is Coed, yn enwog am y Grog anghyffredin, sef delw o'r Iesu wedi ei rwymo, yn yr eglwys. Fe'i symudwyd yno rywbryd yn y cyfnod hwnnw o eglwys Y Drenewydd. Ceir o leiaf ddwy gerdd i'r Grog hon yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr, un ohonynt gan Siôn Ceri a'r llall yn gywydd gan fardd anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4b/Ashton_family%2C_Trefeglwys_NLW3363622.jpg/320px-Ashton_family%2C_Trefeglwys_NLW3363622.jpg)
Mae plwyf Trefeglwys yn cynnwys "trefi" Bodaioch, Maestrefgomer, Esgeirieth a Dolgwden.
Heddiw mae sawl cyfleuster yn y pentref, yn cynnwys tafarn, garej, eglwys a chapel, ysgol gynradd, neuadd y pentref a maes chwarae. Fel sawl pentref gwledig arall o'r rhan yma o Bowys, mae Trefeglwys wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn dros y degawdau diwethaf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[5]