Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Trefdraeth[1][2] (Saesneg: Newport). Saif ar yr afordir yng ngogledd y sir. Mae'n wynebu Bae Ceredigion i'r gogledd-orllewin. Llifa Afon Nyfer i'r môr yn agos i'r pentref gan ffurfio aber llydan. Mae arwynebedd y gymuned hon yn 1,768 hectar. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae'n boblogaidd gyda ssyrffwyr, fel mannau eraill ar arfordir Penfro.
Trefdraeth o ben Carn Ingli | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,161, 1,058 |
Gefeilldref/i | Plougin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,767.76 ha |
Cyfesurynnau | 52.0198°N 4.8361°W |
Cod SYG | W04000456 |
Cod OS | SN055395 |
Cod post | SA42 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Am y pentref o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Trefdraeth, Ynys Môn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Hanes
Trefdraeth yw un o'r bwrdeistrefi hynaf yng Nghymru, gyda'r castell yn sedd i Arglwydd Barwnol Cemais. Codwyd y castell yn 1195. Fe'i atgyweiriwyd yn 1859 a dyna pryd y codwyd yr adran annedd. Yn 1215, wedi derbyn ei Siarter, roedd gan Drefdraeth ei maer ei hun ac mae'r swydd yn dal mewn bodolaeth.
Ger y pentref mae cromlech Neolithig Carreg Coetan Arthur a Cherrig y Gof. Gellir cyrraedd bryngaer Carn Ingli (337m), sef un o nodweddion amlycaf yr ardal o'r pentref ei hun. O gopa'r mynydd hwn ceir golygfeydd arbennig o draeth y Parrog a Bae Trefdraeth a gellir gweld olion yr hen fryngaer sy'n dyddio'n ôl o Oes yr Haearn a bryngaer Carn Ffoi.[5]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Trefdraeth, Sir Benfro (pob oed) (1,161) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefdraeth, Sir Benfro) (483) | 42.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefdraeth, Sir Benfro) (748) | 64.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefdraeth, Sir Benfro) (285) | 48.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.