ffilm a serennai Brooke Shileds o 1980 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae The Blue Lagoon yn ffilm ddrama ramantus, Americanaidd o 1980, a gyfarwyddwyd gan Randal Kleiser o sgript a ysgrifennwyd gan Douglas Day Stewart yn seiliedig ar nofel o 1908 (o'r un enw) gan Henry De Vere Stacpoole. Mae'r ffilm yn serennu Brooke Shields a Christopher Atkins. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Basil Poledouris a'r sinematograffi gan Néstor Almendros.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 1980, 19 Rhagfyr 1980 |
Genre | ffilm ramantus, ffilm am arddegwyr, ffilm glasoed, ffilm ddrama, ffilm am oroesi, ffilm a seiliwyd ar nofel, melodrama |
Olynwyd gan | Return to the Blue Lagoon |
Prif bwnc | morwyn, beichiogrwydd, glasoed |
Lleoliad y gwaith | Oceania'r ynysoedd |
Hyd | 101 munud |
Cyfarwyddwr | Randal Kleiser |
Cynhyrchydd/wyr | Randal Kleiser |
Cwmni cynhyrchu | Columbia Pictures |
Cyfansoddwr | Basil Poledouris |
Dosbarthydd | Columbia Pictures, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Néstor Almendros |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r ffilm yn adrodd hanes dau blentyn ifanc sydd, yn dilyn llongrylliad, yn glanio ar baradwys ynys drofannol yn Ne'r Môr Tawel. Heb arweiniad na chyfyngiadau cymdeithas, mae newidiadau emosiynol a chorfforol yn codi wrth iddynt gyrraedd y glasoed a chwympo mewn cariad a'i gilydd. Roedd y ffilm yn cynnwys cynnwys elfennau rhywiol sylweddol.
Rhyddhawyd y Blue Lagoon ar 20 Mehefin 1980 gan Columbia Pictures. Dilornwyd y ffilm gan y beirniaid, a beirniadwyd perfformiad Brooke Shields yn hallt; fodd bynnag, cafodd sinematograffi Almendros ganmoliaeth uchel. Er gwaethaf y feirniadaeth, roedd y ffilm yn llwyddiant masnachol, a derbyniwyd dros $58 miliwn er mai dim ond $4.5 miliwn oedd cost y ffilm.
Enwebwyd y ffilm am un o wobrau Saturn ac enwebwyd Almendros am Wobr yr Academi am Sinematograffeg Orau, ac Atkins am Wobr Golden Globe ar gyfer Seren Newydd y Flwyddyn - Actor. Enillodd Shields y Wobr Mafon Aur gyntaf (neu'r Golden Raspberry Award) am yr Actores Waethaf am ei gwaith yn y ffilm.
Saethwyd y ffilm yn Jamaica a Nanuya Levu, ynys breifat yn Fiji.[1] Mae'r fflora a'r ffawna a welir yn y ffilm yn cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid o sawl cyfandir. Fel mae'n digwydd, roedd yr iguanas a ffilmiwyd ar Fiji yn rhywogaeth nad oedd biolegwyr yn gwybod amdani ar y pryd; nodwyd hyn gan yr herpetolegydd John Gibbons wrth wylio'r ffilm ac ar ôl teithio i'r ynys lle ffilmiwyd yr iguanas, disgrifiodd yr iguana cribog Fiji (Brachylophus vitiensis) ym 1981.[2]
Roedd Shields yn 14 oed pan yn y ffilm.[3] Perfformiwyd y golygfeydd cwbwl noeth gan gydlynydd stunt 32-mlwydd-oed o'r enw Kathy Troutt.[4] Ond gwnaeth Shields lawer o'i golygfeydd bronnoeth gyda'i gwallt yn cuddio'r rhan fwyaf o'i bronnau.[5][6] Roedd hyn yn wahanol i berfformiad Brooke yn Pretty Baby, pan oedd yn gwbwl noeth newn sawl golygfa, a hithau'n ddim ond deuddeg oed, ddwy flynedd ynghynt.
Roedd Atkins yn 18 oed pan saethwyd y ffilm, a pherfformiodd ei olygfeydd noethlymun ei hun.[7][8][9]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.