From Wikipedia, the free encyclopedia
Y cyflwr o fod heb brofi cyfathrach rywiol yw morwyndod.[1][2] Mae llawer o ddiwylliannau'r byd yn edrych ar forwyndod drwy lygad gwahanol: e.e. anrhydedd, purdeb a diniweitrwydd. Mewn rhai diwylliannau mae bod yn ddi-briod yn gyfystyr â bod yn forwyn. Mae'r gair Cymraeg 'morwyn' yn cyfeirio at fenyw yn unig ond gall 'golli morwyndod' hefyd gyfeirio at fechgyn.
Mae'r gair 'morwyn' hefyd yn golygu gweinyddes mewn plasdy neu dŷ bwyta. Gwas yw'r gair am y gwryw.
Mae oedran colli morwyndod yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r tabl (ar y dde) yn dangosbfod Lloegr a Chymru yn ddwy wlad lle mae pobl ifanc yn colli eu morwyndod yn gynnar iawn. Oed cydsynio yw'r oedran mae'r wlad yn ei gosod mewn deddf, lle mae cael cyfathrach rywiol cyn hynny yn anghyfreithlon. 18 oed yw'r norm, ond mae'n amrywio dipyn go lew. Hyd at y 18g roedd oed gydsynio mor isel â 12 yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.
Gwlad | Bechgyn (%) | Merched (%) |
---|---|---|
Awstria | 21.7 | 17.9 |
Canada | 24.1 | 23.9 |
Croasia | 21.9 | 8.2 |
Lloegr | 34.9 | 39.9 |
Estonia | 18.8 | 14.1 |
Ffindir | 23.1 | 32.7 |
Gwlad Belg | 24.6 | 23 |
Ffrainc | 25.1 | 17.7 |
Gwlad Groeg | 32.5 | 9.5 |
Hwngari | 25 | 16.3 |
Israel | 31 | 8.2 |
Latfia | 19.2 | 12.4 |
Lithwania | 24.4 | 9.2 |
Macedonia | 34.2 | 2.7 |
Yr Iseldiroedd | 23.3 | 20.5 |
Gwlad Pwyl | 20.5 | 9.3 |
Portiwgal | 29.2 | 19.1 |
Yr Alban | 32.1 | 34.1 |
Slofenia | 28.2 | 20.1 |
Sbaen | 17.2 | 13.9 |
Sweden | 24.6 | 29.9 |
Swistir | 24.1 | 20.3 |
Wcráin | 47.1 | 24 |
Cymru | 27.3 | 38.5 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.