cig rhost ar bêr-droell o'r Lefant From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Siawarma (/ʃəˈwɑːrmə/; Arabeg: شاورما), hefyd shawarma, shaurma, chawarma a sillafiadau eraill, yn bryd bwyd cig o'r Dwyrain Canol sy'n seiliedig ar y cebab doner.
Math | stuffed flatbread, wrap, byrbryd |
---|---|
Deunydd | cig, Saws, llysieuyn, Bara pita, lavash, cig eidion, Twrci |
Label brodorol | شاورما |
Gwlad | Lefant |
Dechrau/Sefydlu | 1 g |
Yn cynnwys | lavash, cig, Saws, llysieuyn, Bara pita, Bara tabwn, Cardamom, cumin seed, Paprica, cabbage, Morkovcha |
Enw brodorol | شاورما |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn wreiddiol o gig oen neu dafad, gall y siawarma gyfoes gynnwys cyw iâ, twcri, cig eidion neu cig lle. Torrir y cig yn dafellau tennau a'i llwytho i greu tŵr neu corn ar rhost-droellwr neu bêr-droell.[1][2][3] Caiff tafellau tennau o'r côn sydd wedi eu cogion gan y tân, eu heillio oddi ar y wyneb wrth i'r tŵr gylchroi'r ddi-stop.[4][5]
Mae'r siawarma yn un o brydau bwyd stryd mwyaf poblogaidd y byd, yn enwedig yng ngwledydd y Lefant a phenrhyn Arabia.[6]
Ymddangosodd yr arfer o greu tŵr o gig wedi tafellu eu goginio a'i ber-droellu yn Nhwrci adeg yr Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y 19g, lle galwyd hi yn döner kebap.[7][8] Shawarma, fel gyros, yn dod ohono.[9] Cyflwynwyd y siawarma i Fecsico gan fewnfudwyr o'r Dwyrain Canol lle ddatblygodd ar ddechrau'r 20g fewn i'r tacos al pastor.
Mae Siawarma yn ymgais Arabeg ar y gair Twrceg çevirme tʃeviɾˈme 'troi', sy'n cyfeirio at y droi'r rhost-droell/bêr-droell cig.[10] Mae'r geiriau Twrceg a Groeg, döner a gyros, hefyd yn cyfeirio at 'droi'.
Caiff Siawarma ei baratoi wrth dorri darnau tennau o gig oen, dafad, eidion, cyw iâr, neu dwrci wedi eu marinadu. Bydd y tafelli'n cael eu llwytho ar sgiwer sydd oddeutu Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). o uchder. Caiff braster oen ei ychwanegu er mwyn ategu at y blas a lleithder. Bydd y sgiwer llawn cig yn troi'n araf o flaen tân gan rhostrio'r haen allanol. Caiff siafins o'r cig eu torri gan gyllell hir finiog, neu, teclyn drydannol pwrpasol, â llaw[11] neu beirianyddol.[12]
Caiff y siawarma ei weini ar blât ond mae'n fwy arferol fel brechdan wrap tu fewn bara fflat fel laffa neu bara pita. Gweinir yn aml gyda thomatos, ciwcymber, winwns, llysiau picledig a saws tahini neu saws mango amba.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.