Bryd o fwyd yw Siacsiwca (Arabeg: شكشوكة, Hebraeg: שקשוקה, Sillafid Saesneg: shakshuka neu shakshouka a sillafiad Ffrangeg: chakchouka). Mae'n cynnwys wy wedi ei botsio mewn saws tomato, pupur tsili a winwns, fel rheol wedi ei ychwanegu gan sbeisys cwmin, paprika, pupur cayenne, a cheuen yr India. Ymysg cynhwysion eraill llai cyffredin mae saws Tabasco a mêl.[1][2] Er i'r saig fodoli yn ardal Môr y Canoldir a'r Dwyrain Canol ers amser, mae'r ychwanegiad o wy a ffurf llyseiol yn hannu o Diwnisia.[3]
Enghraifft o'r canlynol | saig o wyau |
---|---|
Gwlad | Yr Aifft |
Dechrau/Sefydlu | 15 g |
Yn cynnwys | wy, tomato, nionyn, pupur tsili |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etymoleg
Daw'r gair "siacsiwca" o'r Arabeg شَكْشُوكَةٌ sy'n golygu "cymysgfa" mewn slang Arabeg [4] ac yn arbenig tafodiaith Tiwnisia o Arabeg. Daw'r gair o'r ferf Arabeg, شَكَّ sef shakka, sy'n golygu "dal/gludo/clymu ar ei gilydd".[5]
Disgrifiad
Ceir prydau ar ffurf cawl wedi eu seilio ar domato ar draws Ymerodraeth yr Otomaniaid yng ngwledydd yr Aifft, Syria, Balcan a'r Maghreb. Gelwyd hwy'n siacsiwca yn y Maghreb. Roedd y pryd Ottomanaidd Twrcaidd, şakşuka (sillafiad Twrceg cyfoes) yn bryd o lysiau wedi eu coginio gyda briwgig neu afu (ciġer). Ychwanegwyd tomato a phupir yn hwyrach a datblygwyd ffurfiau di-gig (a rhatach, felly). Byddai cymunedau Iddewig yn y Maghreb Otomoanaidd yn gweini amrywiad ar parve llysieol a gwyddir bod Iddewon Tiwnisia yn creu fersiwn sbeislyd o wy siacsiwca.[6]
Ceir trafodaeth ac anghytundeb ar wreiddiau'r pryd. Cred rhai iddo wreiddio yn Nhwrci Otomanaidd tra i eraill gredu iddo ddod o Moroco ac eraill yn haeru mae o'r Iemen y daw lle gweinir hi gyda sahawiq sy'n bast gwrdd poeth.
Er nad yw'r pryd yn gynhenid i'r Lefant, daeth i Israel gyda'r Iddewon a ffodd o'r gwledydd Arabaidd yn dilyn Annibyniaeth Israel wedi'r Ail Ryfel Byd gan ddod yn bryd cyffredin i'r cymunedau Tiwnisia, Aljeria a Moroco yn y wlad. Yn Israel ychwanegir ŵy i'r siacsiwca sydd wedi eu potchio neu gellir defnyddio wy wedi'u rwdlan fel yn y pryd Twrcaidd, menemen.[6][7]
Coginio
Coginir ac yn aml, gweinir y pryd mewn padell cast iron, neu ym Moroco, tajîn.
Gan mai bwyd gwerinol ydoedd, fel y cawl Cymreig, ceir amrywiaethau o wlad i wlad ac o deulu i deulu. Gellir ychwanegu briw gig oen, crasu sbeisiau, iogwrt a pherlysiau.[8] Gelir hefyd ei goginio i gynnwys caws hallt megis ffeta.[9] Ymysg y sbeisus caiff eu defnyddio mae llysiau'r bara 'di malu (coriander), carwy, paprika, cwmin and pupur cayenne.[10][11]
Siacsiwca yn Israel
Daeth y siacsiwca i Israel gyda'r mudiad enfawr o Iddewon o'r gwledydd Arabaidd, yn enwedig wedi Annibyniaeth yn 1948.
Yn 1950au cynhwyswyd siacsiwca gyda 'spam' kosher (o'r enw loof) ar gyfer rations yr Llu Amddiffyn Israel, yr IDF, gelwir hi yn Lafgania Shakshuka.[12]
Erbyn hyn, mae'r term siacsiwca yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl gawhanol amrywiaeth ar y bwyd. Ceir dau brif fersiwn; y Tripolitan, lle mae'r sail yn cynnwys tomato, garlleg a sbeis a'r Tunisian. Gelwir gwahanol fathau hefyd wrth enwau arbennig e.e. Siacsiwca Balcan (gyda caws ffeta a pherlysiau). Bwytir y siacsiwca gyda bara, fel rheol bara pita.
Siacsiwca yng Nghymru
Gweinir siacsiwca mewn sawl bwyty yng Nghymru erbyn hyn. Gellir ei phrynu fel un o'r prydai brecwast ym mwyty Medina yn Aberystwyth.[13] Gweinir y pryd mewn padell ffrio fechan unigol i'r bwytawr gyda bara pita.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.