safle mewn ioga From Wikipedia, the free encyclopedia
Asana neu safle o fewn ioga yw Sarvangasana (Sansgrit: सर्वाङ्गासन), llyth: sefyll ar y sgwyddau, neu'n llawn Salamba Sarvangasana.[1] Mae'n asana gwrthdro mewn ioga modern fel ymarfer corff ond mae hefyd yn ystym hynafol iawn, ac i'w gael yn yr ioga hatha canoloesol.
Enghraifft o'r canlynol | asana, pensefyll |
---|---|
Math | asanas gwrthdro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae llawer o amrywiadau'n bodoli, gan gynnwys asana lle mae'r coesau mewn safle lotws (Padmasana) a Supta Konasana gyda choesau ar led, bysedd y traed ar y ddaear.
Mae'r Sarvāṅgāsana wedi cael ei llysenwi'n "frenhines" neu'n "fam" yr holl asanas.[2][3][4]
Mae'r enw yn dod o'r Sansgrit सालम्ब Salamba, "cefnogi", सर्वाङ्ग Sarvāṅga, "pob cangen", hy "y corff cyfan", [5] ac आसन asana, "ystum", "safle (y corff)", neu "siap (y corff)".[6][7]
Mae'r enw Sarvangasana[8] yn fodern, ond roedd ysumiau corfforol tebyg i'w cael o fewn ioga Hatha Canoloesol, fel mudra, sef y Viparita Karani, sy'n cael ei gofnodi yn y 14g Siva Samhita 4.45-47,[9] Ioga Hatha Pradipika 15g 3.78 -81,[9] Gheraṇḍa Saṃhitā 17g 3.33-35,[9] a thestunau eraill.[10]
Rhagflaenior yr asana hwn o safle lle mae'r corff yn fflat ar y Ddaear, ar y cefn, a gyda'r pebgliniau wedi eu plygu. Gellir rhoi blanced bychan o dan yr ysgwyddau, os yw hynny'n gymorth.
Gall dechreuwyr godi gyda choesau wedi'u plygu, a defnyddwyr profiadol gyda choesau syth. Cefnogir y cefn gan y dwylo: unwaith i fyny, mae'r dwylo'n cyrraedd yn is i lawr y cefn, tuag at y pen, ac mae'r cefn yn cael codi'n uwch o'r llawr; yna gellir sythu'r coesau i safle fertigol.[11]
Gellir mynd i mewn i'r osgo o Halasana (aradr), gan symud i gylchred o ystumiau megis Karnapidasana (y Gwaasgwr Clustiau) gyda'r pengliniau wedi'u plygu'n agos at y pen gyda'r breichiau'n gafael ynddyn nhw. Gellir hefyd symud i ystum Parsva Halasana (aradr i'r ochr) gyda'r corff yn fertigol ac yn troelli i un ochr, a'r coesau allan yn syth gyda'r traed yn cyffwrdd â'r ddaear (i'r ochr honno). Asana dilynol arall yw Supta Konasana, gyda'r coesau wedi'u lledu mor eang â phosibl a blaenau'r bysedd yn gafael yn y bysedd traed; neu Parsva Sarvangasana, ystum uwch, gyda'r ddwy goes yn pwyso i'r naill ochr; ac Urdhva Padmasana yn Sarvangasana, gyda'r coesau mewn safle lotws.[8]
Gellir creu'r ystym Salamba Sarvangasana ar gadair gref a sefydlog, gyda'r coesau'n gorffwys ar y gadair yn ôl, y corff wedi'i gynnal gan blanced wedi'i blygu ar sedd y gadair, a'r ysgwyddau a'r gwddf yn cael eu cynnal ar glustog fechan ar y llawr. Weithiau mae'r dwylo'n gafael yng nghoesau cefn y gadair. Gellir mynd i mewn i'r ystum trwy eistedd ar ochr y gadair yn wynebu'r cefn, codi'r coesau ar y cefn, dal y gadair a phwyso'n ôl, yna llithro i lawr nes bod y pen yn cyrraedd y llawr. Mae'r ystum yn cael ei adael trwy blygu'r coesau a llithro i lawr yn ofalus.[12]
Gwnaeth eiriolwyr rhai ysgolion ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, honiadau am effeithiau ioga ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth.[13][14] Neilltuodd Iyengar dudalen gyfan o Light on Yoga i effeithiau buddiol Sarvangasana, gan honni mai'r ystum yw "un o'r manteision mwyaf a roddwyd i ddynoliaeth gan ein doethion hynafol",[15] gan ei alw'n "Fam Pob Asana"[15] a'i fod yn "ateb i bob problem ar gyfer anhwylderau mwyaf cyffredin."[15] Honnodd fod yr ystum yn cael effaith uniongyrchol ar y chwarennau thyroid a pharathyroid, gan esbonio bod clo'r ên yn cynyddu eu cyflenwad gwaed. Dywedodd fod y gwrthdroad yn cynyddu llif gwaed gwythiennol i'r galon, gan gynyddu'r cyflenwad gwaed i'r gwddf a'r frest, ac felly'n lleddfu "diffyg anadl, crychguriad y galon, asthma, llid y bronci ac anhwylderau gwddf."[15] Dywedodd ei fod yn lleddfu'r nerfau ac yn dileu cur pen a chydag ymarfer parhaus hefyd yr annwyd cyffredin.[15][15] Credai Iyengar fod yr asana'n ddefnyddiol, ar gyfer anhwylderau wrinol, problemau mislif, clwy'r marchogion, torgest, epilepsi, gorflinder, ac anemia.[15] Ni phrofwyd fod yr un o'r rhain yn gywir.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.