asama croesi coesau, mewn ioga Hatha From Wikipedia, the free encyclopedia
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw asana'r lotws neu Padmasana (Sansgrit: पद्मासन; Rhufeiniad: Padmasana).[1] Mae'nasana myfyriol ac yn asana eistedd o India hynafol, lle mae'r ddwy droed yn cael eu gosod ar y glun gyferbyn. Ystyrir yr asana yma'n un hynafol mewn ioga, a'i bod yn rhagflaenu ioga hatha, ac fe'i defnyddir yn eang ar gyfer myfyrdod mewn traddodiadau Hindŵaidd, Tantra, Jain a Bwdhaidd.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd, ioga Hatha, asanas ymlaciol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith yr amrywiadau mae hanner lotws, a'r lotws clwm. Ceir amrywiadau cymhlethach o sawl asanas arall gan gynnwys ioga pensefyll, gyda'r coesau mewn lotws neu hanner lotws. Gall yr ystum fod yn anghyfforddus i bobl nad ydyn nhw wedi arfer eistedd ar y llawr, a gall ymdrechion i orfodi'r coesau fynd i'w lle anafu'r pengliniau.[2]
Daw'r enw Padmasana o'r Sansgrit पद्म Padma, "lotus" ac आसन, Āsana, "osgo" neu "siap y corff".[4][5] Mewn diwylliannau Asiaidd,[6] ystyrir y lotws cysegredig yn symbol o dyfiant tuag at berffeithrwydd a goleuedigaeth gan ei fod wedi'i wreiddio yn y mwd ar waelod y pwll, ond yn codi ac yn blodeuo'n hardd uwchben y dŵr.[7] Mewn Bwdhaeth Tsieineaidd a Thibetaidd, gelwir yr asana hefyd yn "vajra" (Sansgrit: vajrāsana, Ch. 金剛座jīngāngzu).[8][9]
Mae'r asana yma'n hynafol ac yn cael ei ddisgrifio, ynghyd ag asanas eraill, yn y llyfr o'r 8g Patanjalayogashastravivarana.[10] Ceir yr union safle hwn ar ddarnau arian dinar Chandragupta II, a deyrnasodd c. 380–c. 415 OC.[11] Mae'r testun tantrig cyntaf i drafod osgo (asana), y 6ed-10g Nisvasattvasamhita Nayasutra (4.11-17, 4.104-106), yn cyfarwyddo'r myfyriwr a phob "defnyddiwr mantras" i eistedd mewn yn y safle lotws neu osgo tebyg.[12] Mae Ioga Hatha Pradipika o'r 15g yn nodi bod yr osgo yma'n dinistrio pob afiechyd, a bod iogi yn yr ystum sy'n cadw'r aer sy'n cael ei anadlu i mewn trwy'r sianeli nadi yn sicrhau rhyddhad.[10]
Mewn hanner lotws, अर्ध पद्मासन (Ardha Padmasana), mae un goes yn plygu ac yn gorffwys ar y ddaear, tra bo'r goes arall yn cael ei phlygu gyda'r droed mewn safle lotws. Mae'n asana fyfyriol haws na lotws llawn.[13]
Mewn lotws clwm, बद्ध पद्मासन (Baddha Padmasana), mae'r ymarferydd yn eistedd mewn lotws llawn, ac mae pob llaw yn ymestyn o amgylch y cefn i ddal y droed gyferbyn.[14]
Yn यओगमुद्रासन (Yogamudrasana), mae'r iogi'n plygu ymlaen mewn lotws llawn, gan ddod â'r talcen mor agos at y llawr â phosib.[15] Mae'r osgo yma'n ddau beth: yn asana ac yn fwdra; mae amrywiadau haws yn dechrau o Ardha Padmasana neu Sukhasana.[16]
Mewn Bwdhaeth, ceir cerfluniau o'r sylfaenydd, Gautama Buddha, lle caiff ei ddarlunio'n eistedd mewn safle Lotws ac wedi'i orseddu ar flodyn lotws.[17][18][19] Mewn Hindŵaeth, mae delwau'n aml yn darlunio duwiau, yn enwedig Shiva, yn myfyrio mewn safle Padmasana.[20] Yn Jainiaeth, gwelir y Tirthankaras yn eistedd mewn safle Lotws hefyd.[21]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.