asana cydbwyso o fewn ioga From Wikipedia, the free encyclopedia
Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Kukkutasana (Sansgrit: कुक्कुटासन; IAST: Kukkuṭāsana), neu Y Ceiliog.[1][2] Asana cydbwyso ydyw, gyda phwysau'r corff ar y breichiau, y garddyrnau a'r dwylo. Caiff ei ymarfer mewn ioga hatha ac mewn ioga modern fel ymarfer corff. Mae'n deillio o'r Padmasana (Safle Lotws).[3] Mae'n un o'r asanas hynaf ;;e nad yw'r corff ar ei eistedd, mewn myfyrdod.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit kukkuṭā sy'n golygu "ceiliog"[4] ac asana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[5]
Disgrifir yr asana hwn mewn testunau ioga hatha canoloesol gan gynnwys yr Ahirbudhnya Saṃhitā o'r 7g[6] y Vasishtha Samhita o'r 13g[7] yr Ioga Hatha Pradipika 1.23 o'r 15g, a'r Gheraṇḍaāṇ o'r 17g Saṇḍa-3 c Baṇḍa-3 c. 1602.[8]
Dylid llithro i'r asana hwn yn llyfn o'r Padmasana (Safle Lotws). Mae'r dwylo wedi'u plethu trwy'r tu ôl i'r pengliniau, ac mae pwysau'r corff yn cael ei gynnal gan y dwylo wedi'i wasgu i lawr ar y llawr, gyda'r breichiau'n syth fel dwy golofn ionig.[9]
Ymhlith yr amrywiadau mae Urdhva Kukkutasana (i fyny) a Parsva Kukkutasana (i'r ochr).[9][10]
Gwnaeth eiriolwyr rhai ysgolion ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, honiadau am effeithiau ioga ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth.[11][12] Honnodd Iyengar fod y asana hwn "yn cryfhau'r arddyrnau a waliau'r abdomen."[13]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.