Opera gan Richard Strauss From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Salome, Op. 54, yn opera mewn un act gan Richard Strauss. Mae'r libreto yn gyfieithiad i'r Almaeneg gan Hedwig Lachmann o'r drama Ffrengig Salomé gan Oscar Wilde (1891), wedi'i addasu gan y cyfansoddwr. Fe wnaeth Strauss gyflwyno'r opera i'w ffrind Syr Edgar Speyer.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 20 g |
Genre | opera |
Cymeriadau | A Cappadocian, Caethwas, 5 Jews, 2 Nazarene, Jochanaan, 2 soldier, The Page of Herodias, Narraboth, Salome, Herodias, Herodes |
Libretydd | Richard Strauss, Hedwig Lachmann |
Lleoliad y perff. 1af | Semperoper Dresden |
Dyddiad y perff. 1af | 9 Rhagfyr 1905 |
Cyfansoddwr | Richard Strauss |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r opera yn enwog (a phan perfformiwyd gyntaf, yn enwog dros ben) am 'Ddawns y Saith Llen'. Mae'r olygfa derfynol yn aml yn cael ei glywed fel darn cyngerdd ar gyfer soprano ddramatig.
Fe wnaeth Oscar Wilde ysgrifennu ei ddrama Salomé yn Ffrangeg yn wreiddiol. Gwelodd Strauss y ddrama o fersiwn Lachmann, a dechreuodd gwaith ar unwaith am ei droi mewn i opera. Mae strwythr y ddrama wedi'i siwtio'n dda i addasiad cerddorol.
Cyfansoddod Strauss yr opera i libreto Almaeneg, ac dyma'r fersiwn a chafodd ei adnabod yn eang. Yn 1907, gwnaeth Strauss fersiwn arall yn Ffrangeg a chafodd ei ddefnyddio gan Mary Garden, cantores mwyaf enowg yn y rôl pan ganodd yr opera yn Efrog Newydd, Chicago, Milwaukee, Paris a dinasoedd eraill. Canodd Marjorie Lawrence y rôl yn Ffrangeg (ar gyfer Paris) ac yn Alemaeneg (ar gyfer yr Opera Metropolitan, Efrog newydd) yn ystod yr 1930au. Mae'r fersiwn Ffrangeg yn llai adnabyddus erbyn heddiw, er iddo gael ei adfywio yn Lyon yn 1990 a'i reccordio gan Kent Nagano gyda Karen Huffstodt fel Salome a José van Dam fel Jochanaan.[2] Yn 2011, llwyfannwyd y fersiwn Ffrengig gan yr Opéra Royal de Wallonie yn Liège, gan gynnwys June Anderson.
Roedd cyfuniad thema'r Beibl Cristnogol, yr erotig a'r llofruddiog, a wnaeth denu Wilde i'r stori, yn arswydus i gynulleidfaoedd o'r perfformiad cyntaf. Roedd rhai o'r perfformwyr gwreiddiol yn amharod i drin y defnydd fel ag ysgrifennwyd, ac fe wnaeth Salome, Marie Wittich, wrthod perfformio 'Dawns y Saith Llen', ac roedd rhaid i ddawnsiwr gwneud yn ei lle. Mae'r gynsail hon wedi'i ddilyn ers y cyfnod, gan eithrio Aino Ackté, a wnaeth Strauss alw 'yr unig Salome'.[3]
Cafodd Salome ei berfformio yn Königliches Opernhaus yn Dresden ar 9 Rhagfyr 1905, ac o fewn cyfnod o ddwy flwyddyn, cafodd ei berfformio mewn 50 o dai opera ar draws y byd.[4]
Nid oedd Gustav Mahler yn llwyddiannus wrth ennill caniatád y sesnoriaeth Vienna i'w berfformio, felly ni pherfformiwyd gan y Vienna State Opera tan 1918. Cafwyd y perfformiad Awstriaidd cyntaf yn y Graz Opera yn 1906 o dan y cyfansoddwr, gyda Arnold Schoenberg, Giacomo Puccini, Alban Berg a Mahler yn y gynulleidfa.
Cafodd Salome ei wahardd yn Llundain gan swyddfa yr Argwlwydd Chamberlain tan 1907. Pan perfformiwyd cyntaf yn Covent Garden gyntaf yn Llundain o dan Thomas Beecham ar 8 Rhagfyr 1910, cafodd ei addasu.[4]
Cafwyd perfformiad cyntaf yr UDA gan yr Opera Metropolitan gyda Olive Fremstad yn chwarae Salome, a'r ddawns wedi'i pherfformio gan Bianca Foehlich ar 22 Ionawr 1907.[5] Bu adolygiadon cymysg. Ar ôl y perfformiad, ar ôl pwysau gan noddwyr cyfoethog cafodd perfformiadau eraill eu canslo, ac ni chafodd ei pherfformio eto tan 1934.[6]
Yn 1930, arweiniodd Strauss perfformiad o Salome ar 5 Tachwedd yn Théâtre des Champs-Élysées, gyda trefniant cerddorfaol ychydig yn llai.
Heddiw, mae Salome yn ganolog i'r repertoire operatig; mae nifer o recordiadau sain. Mae perfformiad tebygol yn para am tua 100 munud.[7]
Cymeriad | Llais |
---|---|
Herodes, cyd-Ymerawdwr Jiwdea a Perea | tenor |
Herodias, ei wraig (a chwaer yng nghyfraith) | mezzo-soprano |
Salome, ei llysferch (a nith) | soprano |
Jochanaan (Ioan y Bedyddiwr) | bariton |
Narraboth, capten y gwarchodlu | tenor |
Gwas Herodias | contralto |
Iddew cyntaf | tenor |
Ail Iddew | tenor |
Trydydd Iddew | tenor |
Pedwerydd Iddew | tenor |
Pumed Iddew | bas |
Nazarene cyntaf | bas |
Ail Nazarene | tenor |
Milwr cyntaf | bas |
Ail filwr | bas |
Cappadocian | bas |
Caethwas | soprano/tenor |
Teras mawr ym mhalas Herod, uwch ben neuadd fwyta. Mae rhai milwyr yn pwyso dros y balconi. I'r dde mae grisiau enfawr, i'r chwith ac yn y cefn mae hen seston wedi'i amgylchynu gan wal o efydd gwyrdd. Mae'r lleuad yn disgleirio.
Mae Narraboth yn edrych o'r teras ym mhalas Herod mewn i'r neuadd fwyta lle mae'r Dywysoges Salome hardd; mae'n ei charu, ac yn ei dwyfoli, gan annog ofn yng ngwas Herodias. Clywir llais y proffwyd Jochanaan o'r carchar yn seston y palas; mae Herod yn ei ofni ac wedi datgan y dylai neb ei gysylltu gydag ef, gan gynnwys Uwch Offeiriad Jerwsalem.
Wedi blino o'r wledd a'i gwesteion, mae Salome yn ffoi i'r teras. Pan clywir Jochannaan yn melltithio ei mam (Herodias), mae Salome yn chwilfrydig. Ni wnaiff gwarchodwyr y palas ddod â Jochanaan iddi, felly mae'n gweithio ar Narraboth i ddod â Jochanaan i'w gweld. Er gwaethaf gorchmynion mae wedi derbyn gan Herod, mae Narraboth yn ildio ar ôl iddi addo i wenu arno.
Mae Joachanaan yn dod i mewn o'r seston ac yn gweiddi proffwydoliaethau am Herod a Herodias nad yw unrhyw un yn deall, heblaw am Salome pan mae'r proffwyd yn cyfeirio at ei mam. Wrth weld Jochanaan, mae Salome wedi'i gorlethu gyda chwant amdano, gan roi clod i'w croen gwyn ac yn gofyn i'w gyffwrdd, ond mae'n gwrthod. Mae hi'n clodfori ei wallt du, gan ofyn eto i'w gyffwrdd, ac yn cael ei gwrthod unwaith eto. Yna, mae'n cardota am sws gan wefusau Jochanaan, ac mae Narraboth, ac nad yw'n gallu dioddef hwn, yn lladd ei hunain. Mae Jochanaan yn cael ei ddychwelyd i'r ffynnon, ac mae'n pregethu iachawdwriaeth drwy’r Meseia.
Mae Herod yn dod i mewn, wedi'i ddilyn gan y llys a'i wraig. mae'n llithro yng ngwaed Narraboth ac yn dechrau gweld rhithau. Mae'n clywed curiad adenydd. er gwaethaf gwrthodiad Herodias, mae Herod yn llygadrythu Salome'n chwantus , sy'n ei wrthod. Mae Jochanaan yn aflonyddu Herodias o'r seston, gan alw eu priodas yn un o losgach a phechod. Mae Herodias yn gorchymyn i Herod ei ddistewi. Mae Herod yn gwrthod, ac mae hi'n mocio ei ofn. Mae pum Iddew yn dadlau am natur Duw. Mae dau Nazarene yn dweud straeon gwyrthiau Iesu Grist, gan gynnwys stori merch Jairus sy'n codi o farwolaeth, a wnaiff Herod ffeindio'n ofnus.
Mae Herod yn gofyn i Salome i fwyta ac yfed gydag ef; mae hi'n ei wrthod dwywaith, gan ddweud nid yw'n newynog neu'n sychedig. Mae Herod yn gofyn i Salome i ddawnsio ar ei gyfer, Tans für mich, Salome ac mae ei mam yn gwrthod. Mae'n gaddo i'w gwobrwyo gydag awydd ei chalon - hyd yn oed os oedd yn hanner ei deyrnas.
Ar ôl i Salome gwestiynu ei addewid ac mae'n tyngu llw i'w barchu, mae'n paratoi ar gyfer 'Dawns y Saith Llen'. Mae'r ddawns, yn ddwyreiniol iawn yn ei threfniant ar gyfer y gerddorfa, yn gweld Salome yn tynnu i ffwrdd ei saith llen sy'n gorchuddio ei chorff, tan y mae'n gorwedd yn noeth wrth ei draed. Mae Salome yn gorchymyn Herod am ben Joachanaan ar blât arian. Mae ei mam yn chwerthin, ac mae Herod yn ceisio ei anghymell gyda chynigion o dlysau, peunod a llen sanctaidd y Deml. Ond mae Salome yn aros yn driw i'w gorchymyn ac yn gofyn am ben Jochanaan, gan orfodi i Herod i'w wneud. Ar ôl monolog anobeithiol gan Salome, mae dienyddiwr yn dod o'r ffynnon ac yn danfon y pen iddi fel y gwnaiff ei gofyn.
Mae Salome yn datgan ei chariad am y pen toredig, gan ei anwesu a chusanu’r gwefusau’n angerddol. Wedi'i arswydo, mae Herod yn gorchymyn i'w filwyr lladd Salome. Maent yn brysio ymlaen ac yn malu Salome o dan eu tarianau.
Fe wnaeth Strauss sgorio Salome ar gyfer cerddorfa fawr:
Mae'n offeryniaeth yn cynnwys nifer o nodau ar gyfer llinynnau a chwythbrennau sy'n rhy isel iddynt chwarae; roedd Strauss yn ymwybodol.[6]
Mae cerddoriaeth Salome yn cynnwys system leitmotifau, melodiau byr gyda ystyr symbolig. Mae rhai ohonynt yn ymwneud gyda chymeriadau fel Salome a Jochanaan, ac mae eraill yn fwy haniaethol. Mae defnydd Strauss o leitmotifau yn gymhleth, gyda symboliaeth a ffurf cerddorol yn destun i drawsnewidiad. Mae rhai leitmotifau, yn enwedig yr rhai sydd yn ymwneud â Herod, yn newid yn eu ffurf ac ystyr symbolig.[8] Weithiau, mae Strauss yn darparu enwau ar gyfer rhai o'r leitmotifau, ond nid yw'n gwneud yn gyson, ac mae eraill wedi rhoi enwau iddynt.
Mae'r harmoni yn defnyddio tonyddiaeth estynedig, cromatyddiaeth, ystod eang o gyweiriau, trawsgyweirio anarferol, amwyster tonyddol a pholitonyddiaeth. Mae gan rai cymeriadau gyweiriau eu hunain, fel Salome a Jochanaan, yn ogystal â themau seicolegol, fel chwant a marwolaeth.
Fe wnaeth Strauss addasu libreto yr opera, gan dorri i lawr bron i hanner drama Wilde, gan rhoi pwyslais ar y strwythr dramatig. Mae'r strwythr y libreto yn batrymiedig, yn enwedig yn newfnydd cymesuredd a grwpio digwyddiadau ac adrannau mewn grwpiau o dri. Mae esiamplau o'r strwythr tair-ran yn cynnwys cais Salome i gamarwain Narraboth er mwyn iddi weld Jochanaan. Mae'n ceisio ei gamarwain tair gwaith, ac mae'n ildio y trydydd tro. Pan ddaw Jochanaan o flaen Salome mae'n dweud tri phroffwyddion, yna mae Salome yn proffesu ei chariad ar gyder Jochanaan tair gwatih - cariad o'i groen, ei wallt, a'i wefysau, yr olaf a wnaiff Jochanaan ei melltihtio. Yn yr olygfa ddilynol mae Herod yn gofyn tair gwaith i Salome ymuno ag ef - i fwyta, yfed, ac eistedd gydag ef. Mae'n ei wrhtod bob tro. Yna, mae Herod yn gofyn iddi ddawnsio tair gwaith. Dwywaith mae'n gwrthod, ond y trydydd tro mae Herod yn gaddo i roi iddi beth bynnag y hoffai yn y byd, a chytunai Salome. Ar ôl ei dawns dywedai y dymunai pen Jochanaan ar blât. Mae Herod yn gwenud tri chynnig- emrallt, paun a llen sanctaidd y Deml. Mae Salome yn gwrthod bob cynnig. Mae grwpiau o dri yn digwydd ym mannau eraill yn yr opera hefyd.[9]
Mae gofynion lleisiol rôl Salome yr un â rhai o gymeriadau Isolde, Brünhilde, neu Turandot, gan fod yn ddelfrydol, mae'r rôl yn gofyn am sŵn, stamina, a phŵer soprano ddramatig. Thema cyffredin o'r pedwar rôl yw'r anhawster wrth gastio soprano sydd â llais dramatig ac yn gallu dod ar draws fel menyw ifanc.
Mae'r rôl hefyd yn gofyn am ystwythdergosgeiddigrwydd o dawnswr bale wrth berfformio 'Dawns y Saith Llen'. O ganlyniad i gymhlethrwydd y rôl, mae rhai perffomwyr yn dewis i ganu yn unig, gan adael i ddawnswyr proffesiynol ddawnsio. Weithiau, maent yn dewis i ddawnsio hefyd. Erbyn diwedd 'Dans y Saith Llen', mae rhai sopranos (neu dawnswyr) yn dewis gwisgo hosan gorff o dan y lleni, lle bo rhai yn dewis ymddangos yn noeth.
Mae'r rôl yn anodd iawn. Y nodyn uchaf yw B5, a'r nodyn isaf yn Gb3, yn ystod y contralto. Mae'r ystod yn eang iawn ac yn aml ffeindir cantorion mezzo-soprano yn canu rhan Salome.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.